Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Aeth swyddogion i safle gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar Commercial Street, Pengam, tua 1pm dydd Iau 22 Chwefror, ac maen nhw’n apelio ar unrhyw un â gwybodaeth neu luniau camera car i gynorthwyo eu hymholiadau.
Rydym yn apelio am dystion ar ôl gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar Commercial Street, Pengam, tua 1pm dydd Iau 22 Chwefror.
Aeth swyddogion i’r safle, ynghyd â phersonél o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr.
Aethpwyd â’r cerddwr, menyw 84 oed, i’r ysbyty lle bu fawr yn ddiweddarach. Mae ei theulu agosaf wedi cael gwybod ac maen nhw’n derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Arestiwyd dyn 54 oed o ardal Caerffili ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru peryglus. Ers hynny, mae wedi cael ei ryddhau wrth i’n hymchwiliad fynd yn ei flaen.
Mae ymholiadau’n parhau ac rydym yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw fodurwyr a oedd yn teithio ar Commercial Street rhwng 12.30pm a 1pm dydd Iau 22 Chwefror, gysylltu â ni.
Gall unrhyw un â gwybodaeth, gan gynnwys lluniau camera car neu TCC, gysylltu â ni drwy ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu Twitter gan grybwyll rhif cofnod 2400061314.