Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu dyn o Gasnewydd a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4 dydd Llun 29 Ionawr wedi talu teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel ‘cawr caredig’.
Mae teulu cyn aelod o’r Llynges Frenhinol a gweithiwr i’r GIG o Gasnewydd, a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4, wedi talu teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel ‘cawr caredig’.
Aeth swyddogion i safle gwrthdrawiad traffig ffyrdd rhwng tri char– BMW X4, Vauxhall Agila a Volkswagen Polo – tua 9pm dydd Llun 29 Ionawr.
Cyhoeddwyd bod gyrrwr y Vauxhall, dyn 52 oed o Gasnewydd, wedi marw yn y fan a’r lle.
Gallwn gyhoeddi mai ei enw yw Paul Slater; mae ei deulu agosaf wedi cael gwybod ac maen nhw’n derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae teulu Paul wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud:
“Roedd pawb yn dwlu ar Paul Slater, y cawr caredig a oedd wrth ei fodd gyda Greggs. Roedd yn dad ymroddgar, yn ŵr a mab cariadus.
“Cafodd ei eni yn Swydd Efrog, a daeth i Gymru ar ôl cwympo mewn cariad ag Ann, ei wraig gariadus o Gaerdydd.
“Mae Paul yn gadael ei etifeddiaeth yn ei ddwy ferch hyfryd Victoria-Rose ac Alexandra yr oedd yn eu caru’n fawr ac a oedd yn golygu’r holl fyd iddo.
“Prin y byddech chi’n cwrdd â dyn mwy dysgedig ac egwyddorol, roedd yn hael ac yn barod i helpu unrhyw un mewn angen.
“Gwasanaethodd Paul ei wlad yn y Llynges Frenhinol am dros 22 o flynyddoedd, gan wasanaethu ar draws y byd cyn dychwelyd adref a pharhau i helpu pobl mewn angen yn y GIG.
“Fel teulu, rydym eisiau rhannu ein gwerthfawrogiad o’r holl wasanaethau brys a geisiodd helpu Paul, rydym yn gwybod nad oedd ar ei ben ei hun a diolch yn fawr i’r rhai sy’n parhau i helpu.
“Gofynnwn i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth neu luniau camera car i gysylltu â Heddlu Gwent.”
Arestiwyd dyn 34 oed o Gaerdydd ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru peryglus. Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach tra bod ymholiadau’n parhau.
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar gyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll rhif cofnod 2400034015.
Gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 hefyd.