Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu dyn o Gasnewydd, a fu farw ar ôl gwrthdrawiad ar Heol Caerdydd, Casnewydd wedi talu teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel dyn ‘caredig, hael ac arbennig’.
Cafodd swyddogion adroddiad am wrthdrawiad traffig ffyrdd - tua 4.50pm ddydd Iau 8 Chwefror.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng car Hyundai i10 lliw arian – a cherddwr.
Aethpwyd â’r cerddwr, dyn 84 oed o Gasnewydd, i’r ysbyty lle y bu farw’n ddiweddarach.
Gallwn gyhoeddi mai ei enw yw Charles Sully; mae ei deulu agosaf wedi cael gwybod ac maen nhw’n derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae teulu Charles wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud:
“Charles oedd y gŵr bonheddig mwyaf caredig a hael ac roedd yn frawd, brawd-yng-nghyfraith, ac ewythr arbennig i’w holl deulu.
“Bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb oedd yn ei adnabod.
“Hoffem ddiolch i bawb a’i helpodd ar safle’r gwrthdrawiad a gofynnwn am breifatrwydd ar yr adeg anodd yma.”
Charles Sully, 84.
Arestiwyd dyn 44 oed o ardal Casnewydd ar amheuaeth o achosi anaf difrifol trwy yrru peryglus, gyrru cerbyd tra’n anghymwys oherwydd cyffuriau, a gwrthod aros ar ôl damwain ffordd.
Cafodd ei ryddhau dan ymchwiliad tra mae ein hymholiadau’n parhau.
Rydyn ni’n gofyn i unrhyw un â lluniau TCCC, camera car neu gamera cloch drws, neu dystion a allai fod wedi gweld Hyundai i10 lliw arian yn teithio rhwng Heol Caerdydd a Gaer Vale yng Nghasnewydd adeg y gwrthdrawiad, gysylltu â ni.
Gallwch ein ffonio ni ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar gyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll rhif cofnod 2400045681.
Gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw hefyd ar 0800 555 111.