Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwiriodd swyddogion bron i 30 o gerbydau a chyflwyno 12 adroddiad trosedd traffig yn rhan o’r ymgyrch ddiweddaraf i wasgu’n dynn ar droseddau moduro.
Nod Ymgyrch Utah – diwrnod o weithredu amlasiantaeth – yw canfod a mynd i’r afael â defnyddwyr ffyrdd sy’n rhoi modurwyr eraill mewn perygl – naill ai drwy yrru’n anghyfreithlon neu drwy yrru cerbydau nad ydynt yn cyrraedd safon diogelwch derbyniol.
Arestiwyd un person ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol ac arestiwyd un arall ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau.
Archwiliwyd 29 o gerbydau yn ystod yr ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd ddydd Llun 22 Ionawr yn safle profi a phont bwyso'r Asiantaeth Safonau Cerbydau (DVSA) ar gylchfan Coldra, Casnewydd.
Roedd yr ymgyrch amlasiantaeth yn cynnwys swyddogion o’r tîm Plismona Ffyrdd a Gweithrediadau Arbenigol a’r Motor Insurance Bureau.
Ymunodd swyddogion â phartneriaid o’r DVSA.
Yn ystod yr ymgyrch, dyma a gyflawnwyd:
Stopio 29 o gerbydau i gael eu gwirio
Cyflwyno 12 Adroddiad Trosedd Traffig (TOR) am wahanol droseddau, gan gynnwys dim treth, dim MOT, a llwythi anniogel
Cyhoeddi naw gwaharddiad ar unwaith am nad oedd cerbydau’n addas ar gyfer y ffordd – gan gynnwys cerbydau wedi gorlwytho, teiars diffygiol
Atafaelu pedwar cerbyd am ddiffyg yswiriant
Atafaelu pedwar cerbyd o dan Adran 165 am beidio â gyrru yn unol â thrwydded a/neu ddiffyg yswiriant.
Dywedodd Cwnstabl Heddlu Nathan Ford, o’r Uned Plismona Ffyrdd a Gweithrediadau Arbenigol:
"Nid peryglu eu hunain yn unig mae pobl sy’n dewis torri’r gyfraith trwy yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, maen nhw’n peryglu defnyddwyr ffyrdd eraill hefyd.
"Mae gyrru’n anghyfrifol, heb yswiriant neu heb gadw eich cerbyd mewn cyflwr da, yn annerbyniol ac ynghyd â’n partneriaid, byddwn yn parhau i dargedu’r rhai sy’n torri’r gyfraith fel yma.
"Mae ymgyrchoedd penodol fel yr un yma’n sicrhau bod pobl sy’n diystyru’r gyfraith ac yn peryglu diogelwch ar y ffyrdd yn cael eu cymryd oddi ar y ffyrdd ar unwaith.
"Gofynnaf yn daer ar fodurwyr i yrru’n ofalus, yn gyfrifol ac o fewn terfynau’r gyfraith, ac i sicrhau bod eu cerbydau mewn cyflwr da bob amser.
"Os ydych chi’n pryderu am gerbydau anaddas ar gyfer y ffyrdd neu gerbydau sy’n cael eu gyrru’n anghyfreithlon, gallwch ddweud wrthym ni ar 101 neu drwy anfon neges atom ni ar Facebook neu X."