Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion eisiau siarad ag unrhyw un a oedd yn teithio ar y B4521 rhwng 11.30am a 12.30pm dydd Sul 28 Ionawr.
Rydyn ni’n apelio am dystion ar ôl gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar y B4521, ger Ysbyty Llys Maindiff, tua 12.30pm dydd Sul 28 Ionawr.
Galwyd swyddogion yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar - Mitsubishi L200 a Mercedes GLK250.
Aeth swyddogion i’r safle, ynghyd â phersonél o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Aethpwyd â dau o bobl a oedd yn teithio yn y Mitsubishi – dyn 53 oed a menyw 79 oed - i’r ysbyty i gael triniaeth.
Aethpwyd â dau o bobl a oedd yn teithio yn y Mercedes – menyw 64 oed a dyn 75 oed – i’r ysbyty i gael triniaeth hefyd.
Mae ymholiadau’n parhau ac rydyn ni’n gofyn i unrhyw fodurwyr â lluniau camera car a oedd yn defnyddio’r B4521, ger Ysbyty Llys Maindiff, rhwng 11.30am a 12.30pm gysylltu â ni.
Gallwch ein ffonio ni ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu Twitter, gan grybwyll rhif cofnod 240032272 gydag unrhyw fanylion.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.