Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn apelio o’r newydd am wybodaeth i ddod o hyd i ddyn o Gaerffili sydd ar goll o hyd.
Gwelwyd Glyn Griffiths, 62 oed, ddiwethaf nos Sul 20 Mehefin 2021 yn ardal Caerffili.
Daeth swyddogion o hyd i’w gar ger Heol y Dderwen yn Nantgarw ar yr 28ain o Fehefin 2021.
Yn ôl y disgrifiad mae Glyn yn 5’9” o daldra, mae’n fain ac mae ganddo wallt llwyd.
Meddai Lana Quick, ymchwilydd staff yr heddlu sy’n gweithio ar yr achos yma:
"Rydyn ni’n dal i weithio’n frwd ar ein hymchwiliad i’r hyn a ddigwyddodd i Glyn Griffiths.
"Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad eang ac, yn anffodus, nid ydym wedi cael yr atebion sydd eu hangen arnon ni.
“Mae unrhyw wybodaeth rydyn ni’n ei derbyn yn cael ei chofnodi a’i hymchwilio. Rydyn ni’n awyddus o hyd i dderbyn unrhyw wybodaeth a allai helpu ein hymholiadau, ni waeth pa mor fach rydych chi’n credu yw’r wybodaeth honno.
“Gallwch ein ffonio ni ar 101 neu anfon neges uniongyrchol aton ni ar gyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll 2100221975. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.”