Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gofynnir i gefnogwyr pêl-droed fod yn ystyriol wrth i Newport County groesawu Wrecsam a’u cefnogwyr i Rodney Parade dydd Sadwrn 20 Ionawr.
Bydd swyddogion yn gweithio gyda Chlwb Pêl-droed Newport County i gadw’r cyhoedd yn ddiogel cyn y gêm darbi Cymreig yn Rodney Parade.
Bydd y clwb yn croesawu Wrecsam ddydd Sadwrn 20 Ionawr ar gyfer eu gêm yn Ail Gynghrair Sky Bet.
Mae hyn ar ôl adroddiadau o anhrefn yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn 6 Ionawr lle cafodd dau ddyn eu harestio ar amheuaeth o anhrefn treisgar.
Meddai Uwch-arolygydd John Davies:
“Rydyn ni’n gwybod y bydd llawer o gefnogwyr Casnewydd a Wrecsam yn edrych ymlaen yn eiddgar at y gêm yma ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu cefnogwyr i’r ddinas dydd Sadwrn.
“Bydd mwy o heddlu’n bresennol yng Nghasnewydd ar ddiwrnod y gêm i wneud yn siŵr bod pawb sy’n ymweld â’r ddinas yn ddiogel, gan gynnwys pobl nad ydyn nhw yng Nghasnewydd ar gyfer y pêl-droed, felly dewch i siarad â ni os oes gennych chi unrhyw bryderon.
“Rydyn ni wedi gweld ymddygiad hollol annerbyniol gan rai pobl yn dilyn gêm a gynhaliwyd yng Nghasnewydd yn gynharach y mis yma, ac rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r clybiau dan sylw a Rodney Parade i adnabod y rhai sy’n ymddwyn yn amhriodol.
“Bydd unrhyw un sy’n cael ei ddal yn cyflawni trosedd neu’n ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol yn cael ei erlyn.”
Arestiwyd dau ddyn, un 23 oed o Gasnewydd ac un 21 oed o Bont-y-pŵl, ar amheuaeth o anhrefn treisgar a rhyddhawyd y ddau ohonynt ar fechnïaeth tra bod ymholiadau’n parhau.
Mae swyddogion eisiau siarad ag unrhyw un a oedd yn ardal Cambrian Road dydd Sadwrn 6 Ionawr rhwng 6.25pm a 6.35pm gan ei bod yn bosibl bod ganddyn nhw wybodaeth a allai helpu eu hymholiadau, gan gynnwys y ddau ddyn yma.
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar gyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll rhif cofnod 2400006514.
Gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gyda manylion hefyd.