Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gang cyffuriau mawr a oedd yn gweithredu yn ardal Gwent, De Cymru a Swydd Gaerloyw wedi cael ei chwalu.
Mae aelodau o grŵp troseddau trefnedig a gyflenwodd gyffuriau dosbarth A a B ledled Gwent, De Cymru a Swydd Gaerloyw wedi derbyn dedfrydau o garchar sy'n dod i gyfanswm o dros 30 o flynyddoedd.
Rhwng Chwefror a Hydref 2021, gwnaethom gynnal gweithgareddau gorfodi trwy ardal de Sir Fynwy gyfan a arweiniodd at atafaelu cyffuriau, arian a ffonau symudol.
Roedd y ffonau a atafaelwyd yn dangos nid yn unig bod eu perchnogion yn ymwneud yn sylweddol â chyflenwi cyffuriau, roedd hefyd yn dangos pawb a oedd yn gweithio gyda nhw. Yn ystod yr ymchwiliad a barhaodd am ddwy flynedd, gwnaethom weithredu wyth gwarant ac atafaelu cyffuriau dosbarth A a B gwerth mwy na £50,000, ynghyd â dros £40,000 mewn arian parod. Mewn un warant yn unig, daethpwyd o hyd i £38,000 mewn coffor a oedd wedi ei guddio i edrych fel llyfr.
Dedfrydwyd y bobl ganlynol yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener 26 Ionawr am gynllwynio i gyflenwi cyffur dosbarth A - cocên, a chyffuriau dosbarth B yn cynnwys ketamine, canabis ac amffetaminau:
• Derbyniodd Andrew Harris, 49 oed o Cinderford, bum mlynedd a saith mis
• Derbyniodd Helga Boehm, 47 oed o Cinderford, bedair blynedd a 10 mis
• Derbyniodd Matthew Nicholas, 35 oed o ardal Casnewydd, wyth mlynedd a dau fis
• Derbyniodd Ashley Bollen, 33 oed o Gil-y-coed, wyth mlynedd ac un mis
• Derbyniodd Peter Wright, 32 oed o Gil-y-coed, bum mlynedd am y troseddau cysylltiedig â chyffuriau ac yn ogystal â hyn, derbyniodd chwe blynedd a naw mis am ymosodiad, nad oedd yn gysylltiedig â'r achos yma. Bydd y dedfrydau yma'n rhedeg yn olynol, sy'n golygu cyfnod o 11 mlynedd a 10 mis yn y carchar.
Roedd pob diffynnydd wedi pledio'n euog mewn gwrandawiad cynharach.
Meddai Ditectif Brif Arolygydd Steven Thomas, yr uwch swyddog ymchwilio:
"Rydym wedi llwyddo i chwalu gang cyffuriau mawr sydd yn y carchar yn awr am eu rhan yn pedlera gofid ledled De Cymru a Swydd Gaerloyw. Yn ogystal â delio cyffuriau i'w cymryd eu hunain am eu bod yn gaeth iddynt, roeddent wedi penderfynu ymwneud â chyflenwi swmp o gyffuriau niweidiol er mwyn gwneud arian iddyn nhw eu hunain ar draul pobl eraill.
“Rydym wedi ymroi i greu amgylchedd gelyniaethus i unrhyw drosedd difrifol a threfnedig yng Ngwent. Does dim lle i gyffuriau anghyfreithlon mewn cymdeithas - maen nhw'n achosi niwed i bobl sy'n mynd yn gaeth iddyn nhw ac i'w teuluoedd, ffrindiau a'r cymunedau ehangach.
“Mae'r dedfrydau yma'n anfon neges gref i bobl sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau yn ardal Gwent ac o gwmpas y byddwn yn troi pob carreg wrth i ni dargedu'r rhai sy'n rhan o’r gweithgareddau anghyfreithlon yma."
Rydym yn annog aelodau'r cyhoedd i fod yn llygaid a chlustiau i ni - i'n helpu ni i darfu ar drosedd difrifol a threfnedig. Os ydych chi'n teimlo bod rhywbeth o'i le, efallai eich bod chi'n iawn. Peidiwch ag aros, riportiwch y mater.
Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl ar unwaith neu os ydych chi'n credu y gallai sefyllfa ddwysáu, ffoniwch 999.
Ar gyfer gwybodaeth gyffredinol gallwch ffonio 101, neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar gyfryngau cymdeithasol.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers - yn ddienw - ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111.