Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd mwy na 160 o bobl eu harestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, fel rhan o’n hymgyrch diogelwch ar y ffyrdd dros y Nadolig.
Gwnaethom ymuno â gwasanaethau ledled Cymru a’r DU yn ehangach i gynnal gwiriadau cerbydau a phatrolau a arweinir gan wybodaeth mewn mannau lle ceir llawer o achosion rhwng dechrau mis Rhagfyr a Dydd Calan.
Cafodd cyfanswm o 151 o bobl eu harestio gan swyddogion ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad ar ffyrdd yng Ngwent; 81 o bobl ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau a 70 o bobl ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol.
Cafodd 14 o bobl eraill eu harestio ar amheuaeth o fethu â darparu sbesimen ar ôl iddynt gael eu stopio gan swyddogion.
Dywedodd y Rhingyll Leighton Healan o’r uned plismona ffyrdd a gweithrediadau arbenigol:
"Mae gwrthdrawiadau angheuol sy’n cael eu hachosi gan bobl sy’n gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn cael effaith barhaol ar deuluoedd a chymunedau.
“Fel rhan o’n hymgyrch diogelwch ar y ffyrdd dros y Nadolig, gwnaethom stopio 1,152 o yrwyr; cafodd 81 o bobl eu harestio ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad cyffuriau a 70 o bobl ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad alcohol.
“Mae’r ffigurau hyn yn dangos bod llawer gormod o bobl yn barod i beryglu eu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill drwy yrru ar ôl yfed alcohol neu gymryd cyffuriau.
“Fyddwn ni ddim yn goddef gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau yng Ngwent. Bydd unrhyw fodurwr sy’n cael ei ddal yn gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau neu’n gyrru’n beryglus, yn cael ei erlyn.”
Mae’r ymgyrch hon yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn i atgoffa pobl am beryglon gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.
Dywedodd y Rhingyll Healan: “Yn anffodus, nid dim ond yn ystod cyfnod y Nadolig yr ydym yn gweld yr ymddygiad hwn, ac mae ein swyddogion yn mynd ar batrôl yn rheolaidd i ddal y rhai sy’n dal i feddwl ei fod yn dderbyniol gyrru ar ôl cymryd cyffuriau neu yfed alcohol.
“Bydd gyrru o dan ddylanwad sylwedd yn effeithio ar eich gallu i yrru; does dim esgus amdano. Efallai y byddwch chi’n teimlo’n iawn, efallai y byddwch chi’n edrych yn iawn, ond gallech fod dros y terfyn ar gyfer yfed a chyffuriau.
“Mae ein neges yn glir – gwnewch y penderfyniad iawn – a pheidiwch byth â gyrru os ydych chi wedi bod yn yfed alcohol neu’n cymryd cyffuriau. Mae gyrru o dan ddylanwad yn newid bywyd, neu hyd yn oed yn rhoi terfyn ar fywyd.
“Mae gan bob un ohonon ni gyfrifoldeb i sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein ffyrdd a’n cymunedau yn ddiogel.
“Os byddwch chi’n gweld rhywun rydych yn amau ei fod yn gyrru o dan ddylanwad, rhowch wybod i ni drwy ffonio 101 neu, os yw’n argyfwng, ffoniwch 999 neu, fel arall, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111."