Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd daliwr canhwyllau euraidd ei ddychwelyd i eglwys yng Nghasnewydd fis diwethaf gan swyddogion yn ymchwilio i fyrgleriaeth ar ôl i leidr werthu’r eitem i fasnachwr metel sgrap.
Cafodd swyddogion eu galw i eglwys y Santes Fair, Stow Hill, Casnewydd, tua 9.25am ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cymryd daliwr canhwyllau mawr o allor.
Gadawodd y dyn yr eglwys a mynd tuag at ganol y ddinas cyn cael ei arestio gan swyddogion ar amheuaeth o ddwyn, lle y gwnaeth gyfaddef iddo werthu’r eitem am sgrap.
Dywedodd Cwnstabl Andrew Buchanan, y swyddog yn yr achos:
"Cafodd y dyn hwn ei adnabod yn gyflym gan swyddogion ac o fewn 24 awr o’r adroddiad yn dod atom ni, cafodd ei arestio ar amheuaeth o ddwyn, ac yn ystod y cyfweliad fe wnaeth gyfaddef iddo werthu’r daliwr canhwyllau i fasnachwr metel sgrap.
"Yn ffodus, roedden ni’n gallu siarad â’r masnachwr i roi gwybod iddo fod yr eitem wedi’i ddwyn o’r eglwys, a gwnaeth gadw gafael ar yr eitem er mwyn inni allu ei ddychwelyd at yr offeiriad.
"Gall byrgleriaeth a dwyn gael effaith wirioneddol ar ein cymunedau.
"Rydyn ni’n deall effaith y math hwn o drosedd ar ein trigolion gan ei fod nid yn unig yn effeithio ar unigolion ond hefyd busnesau a sefydliadau sy’n creu ein cymunedau.
“Cawsom y canlyniad cadarnhaol hwn oherwydd y cydweithio rhwng swyddogion o dîm plismona’r gymdogaeth a thîm rhagweithiol gorfodi’r gymdogaeth.
"Fe wnaeth swyddogion tîm rhagweithiol gorfodi’r gymdogaeth helpu i gasglu a datblygu cudd-wybodaeth ar gyfer mathau penodol o droseddau, fel dwyn, ond hefyd cefnogaeth gyda phatrolau yn y gymuned - fel y mae’r achos hwn yn dangos, lle cafodd yr unigolyn dan amheuaeth ei arestio’n gyflym gan swyddogion.
"Rydyn ni wedi cymryd camau cadarnhaol i leihau troseddau meddiangar ledled Gwent gyda mentrau fel Dangos y Drws i Drosedd.
"Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda busnesau lleol, gan gynnwys manwerthwyr ail law a masnachwyr sgrap cofrestredig, gan roi cyngor a system rybuddio iddyn nhw rannu gwybodaeth rhwng masnachwyr er mwyn atal eitemau sydd wedi’u dwyn rhag cael eu hailwerthu."
Yn ddiweddarach, cyhuddwyd dyn 35 oed o Gasnewydd o ddwyn, yn rhan o’r ymchwiliad.
Ymddangosodd yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mawrth 2 Ionawr a chafodd ddirwy o £80 ar ôl pledio’n euog.