Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cawsom adroddiad am wrthdrawiad traffig ffyrdd ar yr M4, ger Casnewydd, tua 9pm dydd Llun 29 Ionawr.
Mae swyddogion yn dal ar y safle ar ôl y gwrthdrawiad rhwng tri char - BMW X4, Vauxhall Agila a Volkswagen Polo - rhwng cyffyrdd 28 a 29 tua’r dwyrain.
Cyhoeddwyd bod gyrrwr y Vauxhall, dyn 52 oed o Gasnewydd, wedi marw yn y fan a’r lle ac mae ei deulu agosaf wedi cael gwybod ac maent yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Arestiwyd dyn 34 oed o Gaerdydd ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru peryglus ac mae yn y ddalfa tra bod ymchwiliad yr heddlu’n parhau.
Meddai Uwch-arolygydd Mike Richards:
“Tra mae ein swyddogion yn parhau i weithio ar safle’r gwrthdrawiad, mae pob lôn ar y draffordd rhwng cyffyrdd 28 a 30 tua’r dwyrain ar gau ar hyn o bryd ac mae traffig yn cael ei ddargyfeirio.
“Rydym yn gwybod bod hyn yn debygol o darfu yn sylweddol ar deithwyr felly rydym yn gofyn i fodurwyr osgoi’r ardal a dilyn y dargyfeiriadau.”