Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn parhau â'n hapêl i ddarganfod beth ddigwyddodd i Kyle Vaughan, a welwyd ddiwethaf 11 mlynedd yn ôl.
Diflannodd y dyn o Drecelyn, a oedd yn 24 oed ar y pryd, ddydd Sul 30 Rhagfyr 2012, ac ni ddychwelodd ar ôl gadael ei gartref am y noson.
Roedd y car yr oedd yn ei yrru, Peugeot 306 arian, yn rhan o wrthdrawiad un cerbyd ar yr A467 rhwng Crosskeys a Rhisga ar yr un diwrnod â'i ddiflaniad.
Kyle Vaughan
Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Nicky Brain, pennaeth troseddau Heddlu Gwent: "Rydym yn dal i ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd i Kyle y noson honno ym mis Rhagfyr.
"Un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach, rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad â theulu Kyle.
"Mae hwn yn amlwg wedi bod yn ymchwiliad helaeth ac mae'n dal i fod gyda'n tîm ymchwiliadau mawr.
"Yn anffodus, er hyn, nid oes gennym yr atebion sydd eu hangen arnom ni, ac y mae teulu Kyle eu heisiau mor daer."
Ar noson diflaniad Kyle, credir ei fod yn gwisgo het beanie lliw tywyll, crys-t lliw tywyll, siorts denim at y pen glin, esgidiau rhedeg gwyn, a chadwyn aur.
Fel rhan o'r ymchwiliad helaeth hwn, rydym wedi cynnal chwiliadau mewn tua 40 o ardaloedd, wedi cyfweld â mwy na 200 o bobl, wedi derbyn mwy na 180 o gofnodion cudd-wybodaeth ac wedi cymryd bron i 900 o ddatganiadau tystion.
Cafodd ymchwiliad person coll ei lansio i ddechrau a ddaeth wedyn yn ymchwiliad llofruddiaeth.
Dywedodd Ditectif Brif Uwch-arolygydd Brain: "Mae unrhyw wybodaeth a dderbyniwn gan aelodau'r cyhoedd yn cael ei chofnodi a'i hymchwilio.
"Rydym yn dal i fod yn awyddus i dderbyn unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth i'n hymholiadau, hyd yn oed os ydych yn credu nad yw’n bwysig.
"Gall unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth ein ffonio ar 101, anfon neges uniongyrchol atom ar y cyfryngau cymdeithasol, neu fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111."