Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daeth pobl o wahanol ffydd, crefyddau a chredoau at ei gilydd i ddathlu diwylliant de Asia yn Sir Fynwy.
Cafwyd digwyddiad bendigedig gyda dillad trawiadol a bwyd blasus yng Ngorsaf Heddlu Trefynwy i helpu i godi ymwybyddiaeth o gymunedau amrywiol Gwent.
Estynnodd swyddog ymholiadau’r orsaf, Helen Watkins, groeso cynnes i’r menywod, sy’n rhan o grwp lles o wahanol ddiwylliannau, i Drefynwy.
Cafwyd hanes diddorol plismona yn Nhrefynwy gan Mrs Watkins, ynghyd â hanes gafaelgar am y dref.
Roedd y menywod wrth eu boddau gyda Chwnstabl Heddlu Sam Hall a Swyddog Cefnogi Cymuned Nisham Haneefa, a ddaeth â’i ddillad o’i ddiwylliant ei hun ac a aeth â’r grwp ar daith o gwmpas Trefynwy.
Cynhaliwyd y digwyddiad ysbrydoledig yma a drefnwyd gan Heddlu Gwent dydd Mawrth 18 Mehefin ac roedd yn cyd-fynd ag Wythnos Ffoaduriaid Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR), dathliad sy’n dod â phobl o bob cefndir at ei gilydd.
Dywedodd Lesley Wood, Swyddog Cydlyniant Cymunedol yn Heddlu Gwent: "Cafodd y menywod argraff gadarnhaol am blismona yn Nhrefynwy, ac rwy’n siwr y byddant yn rhannu’r argraff honno gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau."