Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwaith i ddod o hyd i ail berson dan amheuaeth y credir sy’n gysylltiedig ag adroddiad am fyrgleriaeth yng Nghoed-duon yn parhau ar ôl i ddyn yn ei bedwardegau gael ei arestio a’i gyhuddo.
Aeth swyddogion i gyfeiriad yn Ladysmith Road ar ôl cael adroddiad bod rhywun wedi mynd i mewn i’r tŷ yn ystod oriau mân dydd Sul 7 Gorffennaf.
Yn ystod y fyrgleriaeth honedig, cafodd nifer o eitemau eu cymryd gan gynnwys pwrs yn cynnwys arian parod a chardiau banc a chymerwyd car - Ford Fiesta Edge gwyrdd (AO60 USU) - o’r tu allan i’r tŷ.
Cyrhaeddodd ymchwilwyr safle trosedd a ditectifs o’n tîm troseddau difrifol a threfnedig y safle i gynnal ymholiadau cynnar.
Meddai Cwnstabl Heddlu Lee Gibbs:
"I ddechrau, gweithredodd swyddogion yn gyflym i sicrhau bod y preswylydd yn ddiogel ac, yn ystod yr oriau dilynol, gwnaethom gynnal nifer o ymholiadau - cyfweliadau, archwiliadau olion esgidiau ac olion bysedd a chwilio trwy luniau TCCC o’r ardal, a arweiniodd at arést y prynhawn hwnnw.
“Gwnaethom arestio dyn 42 oed o Goed-duon ar amheuaeth o nifer o droseddau byrgleriaeth a thwyll.
“Cafodd ei gyhuddo’n ddiweddarach o ymgeisio byrgleriaeth annedd, byrgleriaeth annedd, dwyn cerbyd a thrwyll drwy ymhoniad anwir.
"Rydym yn apelio yn awr am wybodaeth gan y cyhoedd i’n helpu ni i ddod o hyd i ail berson yr ydym yn credu y gall fod yn gysylltiedig â’r fyrgleriaeth, ac unrhyw wybodaeth a all ein helpu ni i ddod o hyd i’r car, a welwyd diwethaf ar Clarence Place, Casnewydd, tua 3.20am dydd Sul 7 Gorffennaf."
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth riportio ar ein gwefan, anfon neges uniongyrchol atom ni ar gyfryngau cymdeithasol, neu ffonio 101, gan grybwyll rhif cofnod 2400225165.
Fel arall gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gyda manylion.