Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd dau ddyn o Gasnewydd, a adawodd gyrrwr tacsi gydag anafiadau sylweddol yn ystod ras ar gyflymder gwyllt ar ffordd ddeuol yn Sir Fynwy, yn cael eu gwahardd rhag gyrru am ddwy flynedd.
Achosodd y ddau ddyn, 21 a 22 oed, wrthdrawiad ar 16 Hydref 2022 yn ystod ras ceir anghyfreithlon ar yr A4810 ger Magwyr.
Galwyd swyddogion i adroddiadau am wrthdrawiad rhwng tri char, Skoda llwyd, Vauxhall Corsa du a Volkswagen Polo gwyn. Nid oedd y tacsi yn rhan o’r ras.
Ymddangosodd y ddau ddyn gerbron Llys y Goron Caerdydd dydd Llun 29 Gorffennaf ar ôl pledio’n euog i achosi anaf difrifol trwy yrru peryglus mewn gwrandawiad cynharach.
Dywedodd y swyddog yn yr achos, Cwnstabl Heddlu Matthew Davies:
“Mae’n syndod nad oedd yr anafiadau a achoswyd gan eu gyrru yn fwy difrifol, a lwc, yn hytrach na chrebwyll, oedd i gyfrif am hynny; ‘does dim esgus dros benderfynu gyrru mor beryglus â’r ddau ddiffynnydd yma.
“Bydd y dioddefwr yn yr achos yma’n byw gydag effaith eu penderfyniadau difeddwl am flynyddoedd i ddod, a chydymdeimlwn ag ef wrth iddo wella o’r anafiadau difrifol a ddioddefodd yn y gwrthdrawiad.
“Gobeithio y bydd yr achos yma’n atgoffa pawb sy’n mynd tu ôl i’r llyw - meddyliwch cyn gyrru.
“Meddyliwch nid yn unig amdanoch chi eich hun, ond am eich teulu, eich ffrindiau, eich anwyliaid ac yn fwyaf pwysig y rhai y gallech chi eu brifo a’r bywydau y gallech chi eu newid trwy yrru’n beryglus.”
Derbyniodd y ddau ohonynt ddedfryd ohiriedig am ddwy flynedd a chafodd y ddau ohonynt eu gwahardd rhag gyrru am ddwy flynedd.
Os oes gennych chi wybodaeth am yrrwr sy’n gyrru’n beryglus neu dan ddylanwad yn rheolaidd, neu os yw’n achos difrys, anfonwch neges atom ni ar Facebook neu Twitter neu ffoniwch ni ar 101.
Gallwch gysylltu â’r elusen annibynnol Crimestoppers hefyd, yn ddienw, ar 0800 555 111, neu drwy fynd i wefan CrimeStoppers.