Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae breuddwydion bachgen yn ei arddegau o Sir Fynwy sydd wrth ei fodd â’r heddlu wedi dod yn wir diolch i swyddogion lleol.
Gwnaeth swyddogion cymdogaeth o Heddlu Gwent gyfarfod â Corey, sy’n 15 oed, yn ei gartref yn y Fenni, a chlywed am ei frwdfrydedd dros yr heddlu.
Mae gan Corey anawsterau dysgu cymhleth ar ôl cael anaf i’w ymennydd pan oedd yn fabi. Roedd wedi ysgrifennu llythyr personol i Heddlu Gwent am ei obeithion i ddod yn swyddog a faint roedd yn mwynhau gwylio rhaglenni teledu am yr heddlu.
Ymwelodd y Swyddogion Cymorth Cymunedol Joshua Carey a Leah Murphy â Corey ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf.
Meddai ei fam, Jane: “Mae Corey wastad wedi bod wrth ei fodd gydag unrhyw beth sy’n ymwneud â’r heddlu ac roedd eisiau gwybod mwy am fod yn swyddog heddlu.”
Gyda chefnogaeth Jane, cynlluniodd Swyddog Carey y trît arbennig i Corey, gyda’r swyddogion yn cyrraedd cartref y bachgen yn un o geir yr heddlu.
Mwynhaodd Swyddogion Carey a Murphy dreulio amser gydag ef, gan ateb ei gwestiynau am sut beth yw mynd ar batrôl yng Ngwent, a dangos y tu mewn i gar yr heddlu iddo.
Fel rhywun sy’n frwdfrydig dros yr heddlu, mae Corey wrth ei fodd gyda’r rhaglen Police Interceptors ar Channel 5, ac roedd yn amlwg pa mor wybodus ydoedd am rôl yr heddlu a phwysigrwydd plismona.
Mae Heddlu Gwent yn ceisio sicrhau bod ei swyddogion yn edrych yn smart bob amser ac, wrth gwrs, roedd Corey wedi gwisgo’n arbennig ar gyfer yr achlysur mewn siaced a helmed yr heddlu.
Meddai Swyddog Carey: “Roedd yn fraint gallu trefnu’r achlysur arbennig yma i ddyn ifanc mor ysbrydoledig.
“Mae Corey yn fachgen caredig iawn ac, yn ddiweddar, fe gwblhaodd her feicio noddedig i godi mwy na £450 ar gyfer y Dogs Trust.
“Rydym yn gweithio’n galed i fod yng nghanol ein cymunedau ac roedd hi’n fraint gallu rhoi syrpreis i rywun sy’n frwdfrydig iawn dros Heddlu Gwent.
“Hoffai pob un ohonom yn Heddlu Gwent ddiolch i Corey am ei gefnogaeth arbennig.”