Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Llwyddodd swyddogion ym Mharc Lansbury i arestio nifer o ddynion, datgymalu ffatri canabis a dychwelyd fan wedi’i dwyn at ei pherchennog yn ystod wythnos o weithredu.
Cynhaliodd swyddogion cymdogaeth amryw o weithgareddau gorfodi ac ymgysylltu’r wythnos ddiwethaf, gan fynd i’r afael ag adroddiadau am ymosodiad, difrod troseddol a byrgleriaeth.
Aethant i gyfarfodydd yn y gymuned i drafod unrhyw bryderon gan drigolion, gan eu sicrhau o’u hymrwymiad parhaus i wneud ein strydoedd yn fwy diogel yn ogystal â chynnal diwrnodau diogelwch tân mewn ysgolion cynradd.
Meddai Rhingyll Emilie Hughes, a arweiniodd yr ymgyrch:
“Rydym wedi canolbwyntio ein patrolau a’n gweithredu rhagweithiol ym Mharc Lansbury, ac mae swyddogion wedi gweithredu gwarantau ac wedi arestio wyth o bobl mewn cysylltiad ag ymosodiadau, troseddau cyffuriau a dwyn o siopau.
“Yn ddiweddar rydym wedi gweld cynnydd mewn adroddiadau am ddifrod troseddol ac anhrefn yn yr ardal, gan gynnwys affräe a welodd nifer o ddynion yn bygwth ei gilydd gydag arfau.
“Arweiniodd hyn at arestio dyn 34 oed o Barc Lansbury ar amheuaeth o affräe, a gwnaethom atafaelu nifer o arfau - yn nodedig polyn metel a rhaw - a ddefnyddiwyd yn yr ymddygiad bygythiol yna.
“Gwnaeth swyddogion ar batrôl arést arall - y tro hwn arestiwyd dyn 44 oed, hefyd o Barc Lansbury - ar amheuaeth o ymosodiad, er nad oedd yn gysylltiedig â’r affräe a riportiwyd.
“Cyhuddwyd y dyn yma o’r drosedd yn hwyrach a chafodd ei remandio i’r llys, lle llwyddodd swyddogion i sicrhau gorchymyn ymddygiad troseddol.”
Arestiodd y tîm ddyn a oedd yn destun gwarant dim mechnïaeth hefyd a gafodd ei remandio i’r ddalfa, ac arestiwyd a chyhuddwyd dyn arall, 34 oed, o ddwyn o siop cyn iddo gael ei remandio i ymddangos gerbron llys.
Yn ystod yr wythnos, arestiwyd dau ddyn mewn cysylltiad â throseddau ymosod, a llwyddodd swyddogion i sicrhau un gorchymyn diogelu trais domestig gan y llysoedd wrth i ni barhau i ddiogelu’r dioddefwyr.
Canolbwyntiodd swyddogion ar fathau eraill o weithgarwch troseddol hefyd, gan gynnwys cyflenwi a chynhyrchu cyffuriau.
“Yn ystod yr ymgyrch canolbwyntiodd swyddogion ar ddod o hyd i bobl dan amheuaeth o gyflawni troseddau cyffuriau”, ychwanegodd Rhingyll Hughes, “a gwnaethant gynnal patrolau pwrpasol mewn ardaloedd rydym yn credu sy’n cael eu heffeithio.
“Trwy batrolau dyddiol, ac ymgysylltu â thrigolion yn ein cymorthfeydd heddlu rheolaidd, rydym yn gallu casglu gwybodaeth ynglŷn â’r llefydd posibl y gall troseddwyr fod yn cyflenwi cyffuriau yn ein cymunedau.
“Mae’r cyhoedd yn chwarae rhan enfawr yn ein helpu ni i greu darlun clir, sy’n llywio ein gwarantau.
“Daeth swyddogion o hyd i ffatri canabis ar ôl gweithredu gwarant mewn eiddo preswyl ym Mharc Lansbury.
“Ar ôl datgymalu’r ffatri canabis, arestiwyd dyn 34 oed ar amheuaeth o gynhyrchu cyffuriau dosbarth B, ac rydym wedi atafaelu planhigion a chyfarpar tyfu hefyd.”
“Yn hwyrach yn yr wythnos, pan oeddem ar batrôl, gwnaethom dynnu cyffuriau dosbarth B oddi ar ein strydoedd ar ôl arestio dyn 33 oed ar amheuaeth o fod â chyffuriau yn ei feddiant gyda bwriad o gyflenwi.
“Mae’r dyn wedi cael ei alw yn ôl i’r carchar yn awr ar ôl torri amodau ei drwydded.”