Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae arolygydd plismona cymdogaeth ym Mlaenau Gwent wedi canmol ei dîm yn dilyn ymgyrch llwyddiannus yn y fwrdeistref.
Cynlluniodd Arolygydd Dan Wise yr ymgyrch tri diwrnod yn dilyn cynnydd mewn adroddiadau am droseddau cysylltiedig â cherbydau yn y fwrdeistref.
Cynhaliodd ei dîm, ynghyd â ditectifs o uned troseddau difrifol yr heddlu, nifer o batrolau ledled Glynebwy a Thredegar i dargedu pobl roeddent yn credu oedd yn ymwneud â throseddau fel dwyn cerbydau, dwyn o gerbydau, difrod troseddol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, a mwy.
Rhwng 24 - 26 Gorffennaf, arestiodd swyddogion 11 o bobl ar amheuaeth o droseddau’n cynnwys byrgleriaeth, dwyn, difrod troseddol, torri amodau mechnïaeth a gyrru dan ddylanwad cyffuriau.
Meddai Arolygydd Wise:
“Dros dair noswaith, gwnaethom gynnal bron i 40 digwyddiad stopio a chwilio, a arweiniodd at dynnu cyffuriau oddi ar ein strydoedd.
“Gwnaethom ganfod nifer o fodurwyr yn cyflawni troseddau hefyd, a chyhoeddwyd pedwar adroddiad trosedd traffig am yrru heb yswiriant neu heb drwydded a defnyddio dyfais symudol â llaw wrth yrru.
“Dydd Iau, arestiwyd pump o bobl ifanc ar ôl i gerbyd wedi parcio gael ei ddifrodi. O fewn munudau i’r drosedd, daliodd swyddogion, gan gynnwys triniwr cŵn, bump o bobl.”
Mae’r tîm wedi ymroi i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, a gwnaed un atgyfeiriad at y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid a phedwar atgyfeiriad REACH ar ôl iddynt atafaelu alcohol gan bobl dan oed.
“Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gallu effeithio ar bawb yn ein cymunedau,” ychwanegodd Arolygydd Wise, “gan gynnwys trigolion, a phobl sy’n gweithio yn yr ardal. Mae’r difrod i’n cerbyd ni, er enghraifft, yn ddifeddwl a chwbl annerbyniol. Gallai ymddygiad di-hid fel yna achosi oedi pan fyddwn ni eisiau cyrraedd rhywun sydd angen cymorth brys.
“Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod ein cymunedau mor ddiogel ag y gallant fod ac yn ymchwilio i’r troseddau cerbydau.
“Rydym wedi gweld lleihad mewn adroddiadau ers yr ymgyrch, fodd bynnag, a bydd y tîm yn parhau i weithio’n galed i ddod o hyd i droseddwyr.”