Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyffuriau, ceir a sgwteri trydan wedi’u hatafaelu mewn cyfeiriadau ledled y ddinas.
Cafodd swmp o gyffuriau ei atafaelu o eiddo ym Metws, Casnewydd, yn dilyn cyfres o warantau fel rhan o Ymgyrch Diadem – ymchwiliad parhaus ers 2023.
Gweithredodd 100 o swyddogion, gan gynnwys rhai o dimau cymdogaeth a thimau eraill, wyth gwarant ar yr un pryd ben bore dydd Iau 11 Gorffennaf, o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau ym Metws, Casnewydd.
Cafodd pob un ohonynt eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffur dosbarth B ac maen nhw yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Yn ogystal â’r cyffuriau ac eitemau eraill, atafaelodd swyddogion dri char, tri sur-ron, dau sgwter trydan, a beic oddi ar y ffordd.
Meddai Cwnstabl Heddlu James Lewis, y swyddog yn yr achos:
"Does dim lle i gyffuriau anghyfreithlon yn ein cymunedau. Mae’r gwarantau hyn yn dangos ein hymroddiad i roi terfyn ar y niwed mae cyffuriau’n ei achosi trwy weithio’n ddiflino i dargedu troseddau difrifol a threfnedig yng Ngwent.
"Mae casglu gwybodaeth yn rhan hollbwysig o’n hymdrechion i darfu ar gyflenwi cyffuriau a’r gweithgarwch troseddol cysylltiedig."
Meddai Cwnstabl Heddlu Beth Jackson, y swyddog arall yn yr achos:
"Mae eich adroddiadau chi yn gwneud gwahaniaeth go iawn, felly daliwch ati i riportio unrhyw bryderon neu wybodaeth drwy ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng.
“Gallwch anfon neges atom ni ar gyfryngau cymdeithasol hefyd neu riportio wrth Crimestoppers yn ddienw ar 08060 555 111.”