Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu Christopher Simmonds, y cyhoeddwyd ei fod wedi marw yn y fan a’r lle ar safle gwrthdrawiad ger Keeper's Pond, Y Fenni, wedi rhyddhau’r deyrnged ganlynol:
"Bore dydd Gwener cafodd ein byd ei droi ben i waered pan gawsom y newyddion trasig ein bod wedi colli Chris.
"Enaid hoff cytûn a gŵr Danielle, tad ffyddlon Ella, Alfie a Poppy, mab annwyl Mike a Sandra, brawd teyrngar Mikey a Carly a ffrind gorau Jon a Jamie.
"Roedd pawb a oedd yn adnabod Chris yn meddwl y byd ohono, roedd ei natur ddigyffro a chefnogol yn ddiwyro. Bydd ein byd yn lle tywyllach am byth hebddo.
"Ar yr olwg gyntaf roedd yn ymddangos yn wydn, ond roedd hynny’n gamarweiniol. Mewn gwirionedd roedd yn ddyn caredig, bonheddig, hael ac roedd yn caru ei deulu gyda’i holl galon.
"Roedd chwerthiniad heintus Chris a’i wên gyfeillgar yn gallu gwneud i bobl deimlo’n ddiogel.
" Roedd yn addoli ei blant ac roedd naill ai’n cefnogi Ella yn cicfocsio neu’n sefyll wrth ochr y cae pêl-droed yn gweiddi cymeradwyaeth ar Alfie neu’n hyfforddi ei Poppy-Jean.
"Syniad Chris o nefoedd oedd bod yn yr ardd wedi’i amgylchynu gan ei deulu ac yn gwrando ar gerddoriaeth dda - dyn syml.
"Hoffem ddiolch i’r gwasanaethau brys am eu proffesiynoldeb yn rheoli’r safle ac i’r tîm achub mynydd am gynorthwyo hefyd.
"Wrth i ni geisio ymdopi â’r trychineb yma, gofynnwn am lonydd a phreifatrwydd i allu galaru fel teulu."
Mae swyddogion sy’n ymchwilio i’r gwrthdrawiad yn apelio ar dystion i ddod i siarad â nhw.
Credir bod y gwrthdrawiad wedi digwydd rhwng 7.30am a 8am ar Heol Blaenafon, rhwng Keeper's Pond a Gofilon dydd Gwener 12 Gorffennaf.
Un cerbyd oedd yn y gwrthdrawiad: Vauxhall Vivaro gwyn yr ydym yn credu oedd yn teithio i gyfeiriad Gofilon.
Gofynnir i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth, gan gynnwys lluniau TCCC neu gamera car, gysylltu â ni. Gallwch wneud hyn ar ein gwefan, trwy anfon neges uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy ffonio 101, gan grybwyll rhif cyfeirnod 2400231286.
Mae’r teulu’n parhau i gael cymorth gan swyddogion arbenigol.