Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod Ymgyrch Spotlight yw tynnu sylw at y pedwar trosedd gyrru marwol sy’n cael eu hystyried i fod yn brif achosion gwrthdrawiadau traffig ffyrdd.
Bydd swyddogion o’r uned plismona ffyrdd ac ymgyrchoedd arbenigol (RPSO) yn cymryd rhan mewn ymgyrch cenedlaethol i helpu i gadw ein ffyrdd yn ddiogel.
Yn ystod mis Gorffennaf mae’r nifer uchaf o bobl yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd y DU, ac mae hyn wedi annog Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) i lansio ymgyrch i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb.
Yn ystod y mis yma dros y pum mlynedd diwethaf mae 2,751 o bobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y ffyrdd ledled y DU oherwydd y pedwar trosedd gyrru marwol.
Nod Ymgyrch Spotlight yw codi ymwybyddiaeth o beryglon a chanlyniadau’r pedwar peth sy’n cyfrannu fwyaf at wrthdrawiadau - gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, defnyddio ffôn symudol, goryrru, a pheidio â gwisgo gwregys diogelwch.
Meddai Prif Arolygydd Shane Underwood:
"Er bod y rhan fwyaf o fodurwyr yn gyrru o fewn rheolau’r gyfraith, mae rhai yn hunanol iawn yn rhoi modurwyr a cherddwyr mewn perygl trwy wneud un, neu fwy, o’r pedwar marwol.
“Trwy ein cefnogaeth barhaol i ymgyrchoedd diogelwch ar y ffyrdd cenedlaethol, mae ein swyddogion plismona ffyrdd a’n partneriaid gwasanaethau brys yn ceisio pwysleisio un neges syml: Peidiwch â rhoi eich bywyd chi a phobl eraill mewn perygl trwy yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, gyrru neu reidio’n rhy gyflym, defnyddio eich ffôn symudol wrth yrru/reidio, a pheidio â gwisgo gwregys diogelwch.
"Does neb eisiau bod yn gyfrifol am achosi gwrthdrawiad difrifol, ac yn sicr does neb eisiau bod y rheswm pam mae’n rhaid i un o’n swyddogion roi gwybod i deulu eu bod wedi colli un o’u hanwyliaid.”
Bob blwyddyn ar gyfartaledd:
• mae 2,815 o bobl yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol o ganlyniad i oryrru
• mae 1,899 o bobl yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol o ganlyniad i yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau
• mae 651 o bobl yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol o ganlyniad i beidio â gwisgo gwregys diogelwch
• mae 125 o bobl yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol o ganlyniad i ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru.
Bydd unrhyw un sy’n cael ei ddal yn cyflawni trosedd gyrru, gan roi ei hun neu bobl eraill mewn perygl, yn cael ei erlyn.
Os gwelwch chi rywun yn gyrru’n beryglus, ffoniwch 101 neu rhowch wybod i ni ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol; ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.
Gallwch gyflwyno tystiolaeth o yrru gwrthgymdeithasol hefyd, diolch i waith Heddlu Gwent a’r bartneriaeth camerâu diogelwch, Gan Bwyll.
Darllenwch fwy yma.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.