Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymuno â lluoedd heddlu ledled y wlad yr wythnos yma i ddathlu a chydnabod gwaith caled, ymroddiad, a dewrder y rhai sy’n ymateb i alwadau gan y cyhoedd ac yn wynebu troseddwyr bob dydd.
Mae rôl swyddog ymateb yn un ddeinamig, amrywiol a heriol, ac maen nhw’n mynd i amrywiaeth eang o alwadau argyfwng 999 yn ystod eu sifftiau.
I’r rhan fwyaf o bobl, swyddogion ymateb mae pobl yn meddwl amdanynt pan fyddant yn meddwl am yr heddlu – rhywun i’w galw, ac i ddibynnu arnynt, mewn angen.
Trwy gydol Wythnos Weithredu Plismona Ymateb, rydym yn amlygu gwaith ein swyddogion, gan dynnu sylw at amrywiaeth o wasanaethau lles a chymorth sydd ar gael iddynt i gefnogi a hybu eu lles.
Meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Mark Hobrough:
“Bob dydd, mae ein timau ymateb yn chwarae rhan hanfodol yn diogelu ein cymunedau, yn aml yn rhoi eu hunain mewn perygl er mwyn sicrhau bod pobl eraill yn ddiogel.
“Rwyf yn anhygoel o falch i fod wedi gwasanaethu mewn nifer o rolau rheng flaen gweithredol yn ystod fy ngyrfa, gan gynnwys fel swyddog ymateb yn Y Barri yn ystod fy nghyfnod gyda Heddlu De Cymru, ac rwy’n gwybod yn union pa mor heriol a gwerth chweil mae’r swydd yn gallu bod.
“Fel arfer, swyddogion ymateb fydd y cyswllt cyntaf a’r unig gyswllt y mae trigolion yn ei gael gyda’r heddlu, felly mae ein proffesiynoldeb a’n hymroddiad yn hollbwysig i sicrhau bod gan y cyhoedd hyder yn ein hymrwymiad a’n gallu i’w hamddiffyn nhw.
“Efallai mai ein hwynebau ni fydd y rhai cyntaf iddyn nhw eu gweld pan fyddan nhw mewn angen, ein lleisiau ni yr unig rai maen nhw’n eu clywed pan fyddan nhw mewn sioc, felly mae swyddogion ymateb yn chwarae rhan mor bwysig yn cefnogi pobl pan maen nhw’n fwyaf bregus.”
Mae’r rôl yn gallu bod yn llafurus yn gorfforol ac yn feddyliol, ac weithiau mae rhywun yn gallu dioddef yn emosiynol, a dyna pam, fel mae Dirprwy Brif Gwnstabl Hobrough yn ychwanegu, mae’n bwysig cydnabod hyn a pharhau i gynnig mentrau lles pwrpasol ar gyfer anghenion swyddogion.
“Dylai ein swyddogion deimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu gwaith,” meddai, “a nod yr wythnos yma o weithredu yw cydnabod gwaith swyddogion ymateb a gadael iddyn nhw wybod bod eu lles nhw’n bwysig a bod cymorth ar gael pan fyddan nhw ei angen.
“Bydd mynediad at amrywiaeth o fentrau iechyd a lles, rhai ohonynt yn dod gan Oscar Kilo, Gwasanaeth Lles Cenedlaethol yr Heddlu, ar gael trwy’r wythnos, a bydd swyddogion yn gallu ymuno â gweminarau a hyfforddiant sy’n rhoi cyngor ar ddatblygu gwydnwch, rheoli straen, cysgu’n dda, a goresgyn blinder.”
Yn hwyrach yr wythnos yma, dilynwch @heddlugwent ar gyfryngau cymdeithasol i glywed mwy gan Ddirprwy Brif Gwnstabl Hobrough pan fydd yn ymuno â swyddogion ymateb Cwmbrân ar ddyletswydd.