Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dydd Gwener 31 Mai, daeth swyddogion o bob rhan o Went at ei gilydd i helpu i gadw modurwyr yn ddiogel.
Cafodd yr ymgyrch ei arwain gan swyddogion o’n timau ymateb a phatrôl, ac roedd yn gyfle gwych i swyddogion sy’n fyfyrwyr ddysgu gan eu cymheiriaid fel rhan o’u hyfforddiant.
Ar y diwrnod:
Meddai Cwnstabl Heddlu Grant Nicholson, a arweiniodd yr ymgyrch:
“Mae canlyniadau’r ymgyrch yma’n destament i’n hymrwymiad i amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau.
“Yn ystod yr ychydig oriau y cynhaliwyd yr ymgyrch hwn, siaradodd y tîm â llawer o yrwyr i gynnig cyngor iddynt, i rannu gwybodaeth gyda nhw, ac i wirio cerbydau.
“Ein neges i bobl sy’n defnyddio ein rhwydwaith ffyrdd i gyflawni troseddau neu i roi pobl eraill mewn perygl trwy yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, yw na fyddwn yn goddef yr ymddygiad yma; rydym wedi ymroi i gadw ein ffyrdd yn ddiogel.”
Gallwch gyflwyno lluniau camera car o yrru peryglus trwy gyfrwng y ddolen yma: https://gosafesnap.wales/
Os ydych chi’n credu bod rhywun yn gyrru dan ddylanwad diod a/neu gyffuriau, ffoniwch 101 neu anfonwch neges atom ni ar Facebook neu X.
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.