Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Lydart, ger Trefynwy, wedi talu teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel dyn ‘serchog, disglair, sionc, siaradus a difyr’.
Aeth swyddogion i ymateb i adroddiad am wrthdrawiad traffig ffyrdd rhwng car Fiat Panda du a beic modur Yamaha coch – ar y B4293 Monmouth Road tua 7pm dydd Mercher 29 Mai.
Cyhoeddwyd bod y beiciwr modur, dyn 20 oed o Drefynwy, wedi marw yn y fan a’r lle.
Gallwn gyhoeddi yn awr mai ei enw yw Ben Ford; mae ei deulu agosaf wedi cael eu hysbysu ac maen nhw’n derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae teulu Ben wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud:
“Roedd Ben yn gariadus ac roedd pawb yn ei garu. Roedd yn serchog, disglair, sionc, siaradus a difyr. Roedd ganddo egni heintus ac roedd ei wên yn dod â’r heulwen i’r diwrnodau mwyaf diflas.
“Doedd e’ ddim yn berffaith o bell ffordd, roedd yn anniben, yn swnllyd, yn ddi-drefn, yn fyrbwyll, yn ystyfnig ac yn gwbl anhyblyg yn aml. Ond roedd hynny’n rhain o’i swyn.
“Roedd yn sbortsmon medrus ac yn eithriadol o dalentog ac enillodd lawer o dlysau a medalau am nofio a gymnasteg iau. Ei hoff chwaraeon yn ddiweddar oedd golff, rygbi, bocsio a’r gampfa.
“Roedd Ben yn credu y dylid byw bywyd i’r eithaf. Roedd yr haf yma’n mynd i fod yn wych, gwyliau teulu yn Ynys Môn, Hozier yng Nghas-gwent, Paris ar gyfer y Gemau Olympaidd ac yna i Boardmasters; pob un gyda’i gariad hardd a hudolus.
“Mae marwolaeth Ben yn gadael bwlch enfawr yn ein calonnau. Roedd yn lledaenu ei lawenydd dihafal ble bynnag yr oedd a gyda phwy bynnag yr oedd yn eu cwmni.”
Ben Ford.
Mae ymholiadau i’r gwrthdrawiad yn parhau ac rydym yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi ei weld neu a oedd yn teithio ar hyd y B4293 rhwng Trefynwy a Thryleg rhwng 6.45pm a 7pm dydd Mercher 29 Mai, gysylltu â ni.
Gall unrhyw un â lluniau camera car neu TCCC, gysylltu â ni drwy ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu X, gan grybwyll rhif cofnod 2400176227