Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwelodd swyddogion ar batrôl yn ardal Maendy, Casnewydd, rywun roeddent yn amau oedd yn gwerthu cyffuriau ar Albert Avenue tua 1.45pm dydd Llun 17 Mehefin.
Gwnaethom arestio dyn 40 oed ar amheuaeth o fod â chyffur rheoledig dosbarth B - canabis - yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, ac atafaelu ffôn symudol.
Wedyn chwiliodd ein swyddogion gyfeiriad preswyl yn Albert Avenue, Maendy, lle gwnaethant atafaelu cyffuriau gwerth £290,000 tybiedig ar y stryd, swm o arian a beic trydan.
Yn y cyfeiriad, gwnaethom arestio menyw 59 oed ar amheuaeth o fod â chyffuriau dosbarth B yn ei meddiant gyda’r bwriad o gyflenwi.
Ers hynny mae’r dyn wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffur rheoledig dosbarth B - resin canabis, cynllwynio i gyflenwi cyffur rheoledig dosbarth B, caffael/defnyddio/meddu ar eiddo troseddol, a chyflenwi cyffur rheoledig dosbarth B - canabis.
Ers hynny mae’r fenyw wedi cael ei chyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffur rheoledig dosbarth B - resin canabis, caffael/defnyddio/meddu ar eiddo troseddol, a chyflenwi cyffur rheoledig dosbarth B - canabis.
Ymddangosodd y ddau ohonynt gerbron Llys Ynadon Casnewydd dydd Mercher 19 Mehefin lle cawsant eu remandio i’r ddalfa.