Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ddiweddar gwnaethom gynnal arolwg o’r gwasanaeth desg flaen yng ngorsafoedd heddlu Coed-duon a Chanol Casnewydd.
Cynhaliwyd yr arolwg i gael gwell dealltwriaeth o’r ffordd mae’r cyhoedd eisiau defnyddio ein gwasanaethau, a sut gallwn fodloni’r galw ym mhob ardal.
Yn ystod y gwiriadau, canfu swyddogion bod mwy a mwy o bobl yn parhau i gysylltu â ni ar y ffôn, ar gyfryngau cymdeithasol ac ar y wefan, tra mae llai o bobl yn ymweld yn bersonol â’n desgiau blaen yng Nghasnewydd. Yn y cyfamser mae mwy o bobl yn ymweld â Choed-duon ar amseroedd penodol.
Yn dilyn yr arolwg, byddwn yn treialu amseroedd agor newydd ar gyfer y desgiau blaen yma yn unol â’r ffordd mae’r cyhoedd yn dewis cysylltu â ni.
Canol Casnewydd | O 1 Gorffennaf, bydd y ddesg flaen ar agor i aelodau’r cyhoedd rhwng 8am a 6pm, saith diwrnod yr wythnos.
Gorsaf Heddlu Coed-duon | O 1 Gorffennaf, bydd yr orsaf yn treialu oriau agor estynedig i’r cyhoedd rhwng 8am a 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Trwy gydol y cyfnod prawf o dri mis, byddwn yn parhau i gasglu sylwadau gan y cyhoedd a’n staff ac yn parhau i ddadansoddi sut mae aelodau’r cyhoedd yn dewis cysylltu â ni.