Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae prif gwnstabl Heddlu Gwent wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol yn ddiweddarach yn y flwyddyn wedi 30 mlynedd o wasanaeth i blismona.
Ymunodd Pam Kelly â Heddlu Dyfed-Powys fel cwnstabl heddlu yn 1994 - ar ôl gwirfoddoli yn y gwnstabliaeth arbennig i ddechrau - lle cododd i safle prif gwnstabl cynorthwyol.
Daeth yn ddirprwy brif gwnstabl Heddlu Gwent yn 2017 cyn dod yn brif gwnstabl yn 2019, rôl y mae hi wedi'i chyflawni hyd yma.
Dywedodd: "Mae wedi bod yn fraint enfawr gwasanaethu fel prif gwnstabl Heddlu Gwent, mae'r dewrder a'r ymrwymiad a ddangosir gan swyddogion a staff yn wirioneddol ysbrydoledig.
"Mae plismona wedi newid yn aruthrol ers i mi ymuno â'r gwasanaeth ond mae hanfodion gweithio'n galed i atal a chanfod troseddau ac amddiffyn cymunedau bob amser wedi bod wrth wraidd plismona a bydd yn parhau i fod felly.
"Mae wedi bod yn yrfa wych, a byddwn yn annog unrhyw un a hoffai ymuno â'r gwasanaeth i wneud hynny - mae'n gyfle gwych i wneud gwahaniaeth.
"Rwyf wedi cyhoeddi fy ymddeoliad cyn etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a byddaf yn gweithio'n agos gyda'r comisiynydd newydd i benodi fy olynydd cyn ymddeol yn ddiweddarach eleni."
Cafodd gydnabyddiaeth am ei gwasanaeth i blismona yn y DU yn anrhydeddau'r Jiwbilî Platinwm lle derbyniodd Fedal Heddlu'r Frenhines a hi yw arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar gyfer gweithlu.
Gan fyfyrio ar ei chyfnod ym maes plismona, ychwanegodd: "Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol iawn i blismona yn y DU ac i Heddlu Gwent, rydym wedi delio'n gadarn â'r holl heriau hyn.
"Rwy'n mawr obeithio bod ein gwaith o lywio newid sefydliadol wedi paratoi'r ffordd i'n staff gwych ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymunedau.
"Mae'r staff, partneriaid a'r gymuned yng Ngwent wedi bod yn rhagorol i weithio gyda nhw.
"Mae'n gymuned sy'n gryf ac sydd â gallu gwirioneddol i gydweithio i wneud newid. Mae wedi bod yn fraint llwyr i mi wasanaethu a bod ym maes plismona dros y 30 mlynedd diwethaf."