Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arestiodd swyddogion a oedd yn ymchwilio i grŵp dan amheuaeth o ymwneud â chynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A yn Rhymni a Thredegar bump o bobl yn ystod ymgyrch pwrpasol.
Arestiwyd pedwar dyn ac un fenyw mewn cysylltiad â’r ymchwiliad ac maen nhw yn nalfa’r heddlu o hyd.
Wrth chwilio’r cyfeiriadau daeth swyddogion o hyd i gar, pedwar cerbyd oddi ar y ffordd a beic trydan mewn dau ohonynt a chawsant eu hatafaelu.
Dywedodd Arolygydd Lysha Thompson, yr uwch-swyddog ymchwilio: “Gweithredodd rhyw 40 o swyddogion warantau'r bore yma’n rhan o ymchwiliad i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
“Mae pump o bobl wedi cael eu harestio ac wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei flaen, gofynnwn i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â ni.
“Does dim lle i gyffuriau anghyfreithiol yn ein cymdeithas, ac rydym wedi ymroi i dargedu unrhyw un sy’n ymwneud â chyflenwi cyffuriau, ond mae angen eich help chi arnom ni – os ydych chi’n credu bod rhywbeth o’i le, riportiwch y mater drwy ffonio 101 neu anfon neges at ein desg cyfryngau cymdeithasol.”