Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn adroddiad am fyrgleriaeth yng Nghaerffili rydym yn gobeithio dychwelyd eitemau o emwaith i’w gwir berchennog.
Cawsom adroddiad am fyrgleriaeth ar ôl i rywun dorri i mewn i dŷ yn Heol Pontygwindy rhwng 10am dydd Sadwrn 9 Mawrth a 2pm dydd Sul 10 Mawrth yn ôl pob sôn.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Christiane Fortt, y swyddog yn yr achos:
"Cafodd swmp o emwaith ei ddwyn, a oedd o werth personol enfawr i’w berchennog. Roedd llawer o’r eitemau wedi bod yn eiddo i’r unigolyn am dros 50 mlynedd.
"Hoffem eich help chi i ddychwelyd yr eitemau yma i’w gwir berchennog.
"Os ydych chi’n credu eich bod wedi gweld unrhyw rai o’r eitemau, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am y fyrgleriaeth, gan gynnwys lluniau CCTV neu gamera car o’r ardal ar y pryd - rydym eisiau siarad â chi."
Mae’r rhestr lawn o emwaith a gafodd ei ddwyn yn cynnwys:
Ffoniwch 101 neu anfonwch neges atom ar gyfryngau cymdeithasol gan grybwyll 2400080513.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gyda manylion.