Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly:
"Pan adroddwyd y mater hwn i ni gyntaf ym mis Tachwedd 2022, cefais fy synnu gan gynnwys y negeseuon WhatsApp ac roeddwn yn benderfynol o sicrhau bod yr ymddygiad hwn yn cael ei drin yn gadarn.
"Mae honiadau yn erbyn cyn-swyddogion Heddlu Gwent a rhai sy'n gwasanaethu, yn ymwneud â thrafodaethau ar grŵp WhatsApp, wedi bod yn destun ymchwiliad annibynnol trylwyr gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
"Canlyniad eu hymchwiliad yw y bydd dau swyddog sy'n gwasanaethu ac un cyn-swyddog yn wynebu gwrandawiadau camymddwyn difrifol y byddwn yn eu cynnal cyn gynted â phosibl. Rydym eisoes wedi cynnal cyfarfodydd camymddwyn ar gyfer pedwar swyddog; canfuwyd bod honiadau o gamymddwyn wedi eu profi ar gyfer tri swyddog ac maent wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig. I'r pedwerydd swyddog, ni phrofwyd camymddwyn.
"Tynnodd yr IOPC eu hymchwiliad yn ôl i swyddog arall sy'n gwasanaethu.
"O ran y swyddog arall sydd wedi ymddeol a'r rhai sydd wedi ymddiswyddo, rydym ar hyn o bryd wedi ein cyfyngu gan Reoliadau'r Heddlu o ran pa gamau y gallwn eu cymryd. Pe byddent yn dal i wasanaethu, byddent wedi wynebu achos camymddwyn.
"Mae ein cymunedau a'n staff yn haeddu'r safonau uchaf gan ein swyddogion, ac rydym yn parhau i weithio'n galed i ddelio â'r rhai nad ydynt yn bodloni ein disgwyliadau uchel.
"Mae'r rhan fwyaf o swyddogion yn gwasanaethu ein cymunedau gyda balchder, proffesiynoldeb ac uniondeb. Dyna beth mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl a'r hyn y maent yn ei haeddu.
"Rydym wedi bod yn gwbl glir na fyddwn yn goddef ymddygiad gwael a dylai'r achos hwn fod yn rhybudd amlwg o ganlyniadau ymddygiad amhriodol ar-lein."