Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymgyrch newydd gyda’r nod o wneud pobl yn fwy ymwybodol o wrthdrawiadau beiciau modur ac sy’n cynnig awgrymiadau gan feicwyr proffesiynol ynghylch cadw’n ddiogel, wedi cael ei lansio gan Heddlu Gwent.
Mae beiciau modur wedi bod yn rhan o un o bob saith (15 y cant) o wrthdrawiadau traffig ffyrdd marwol ar ffyrdd cyhoeddus Gwent yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Bydd llawer o feicwyr modur wedi clywed yr ymadrodd cyffredin ‘sorry mate, I didn’t see you’ gan fodurwyr eraill ar ôl i’w cerbydau dynnu allan o’u blaenau nhw gan achosi i’r beiciwr stopio’n sydyn.
Mae’r digwyddiadau “SMIDSY” yma yn un o brif achosion gwrthdrawiadau beiciau modur ac maent yn destun ymgyrch newydd wrth i bobl baratoi eu beiciau modur ar gyfer gwyliau banc y gwanwyn.
Dywedodd Arolygydd Leighton Healan, o’r uned plismona ffyrdd a gweithrediadau arbenigol (RPSO): “Mae’r ymgyrch yma’n defnyddio dull newydd ac yn ceisio rhoi awgrymiadau i feicwyr modur gan feicwyr gorau’r DU er mwyn iddyn nhw yrru’n well yn ogystal â gyrru’n fwy diogel.
“Mae sefyllfaoedd SMIDSY yn gyfarwydd iawn i feicwyr, ac yn anffodus mae nifer o’r digwyddiadau yma’n arwain at anaf neu hyd yn oed farwolaeth beiciwr bob blwyddyn, felly mae gwybod sut i’w hadnabod nhw yn helpu pobl i fod yn feicwyr gwell.
“Mae gan y Ride Craft Hub fwy o gyngor gan feicwyr proffesiynol i’w helpu nhw i fwynhau beicio yn ystod y gwyliau banc. Mae gennym ni ganllaw ar gyfer troi corneli’n berffaith ac awgrymiadau ar sut i ddarllen y sefyllfa ar y ffordd yn dda.
“Rydym yn annog beicwyr i edrych ar yr awgrymiadau cyn paratoi eu beiciau i fynd allan – bydd rhoi sglein ar eich sgiliau’n eich galluogi chi i fwynhau siwrnai esmwythach ac yn eich cadw chi’n ddiogel y gwanwyn yma.”
Nod yr ymgyrch cenedlaethol, sy’n rhan o Brosiect Apex Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, yw rhoi’r sgiliau i feicwyr modur nid yn unig i fwynhau eu siwrnai ond i gyrraedd adref yn ddiogel hefyd.
Mae’r data cyfunol mwyaf diweddar gan yr Adran Trafnidiaeth a’r Cyfrifiad Traffig Ffyrdd Cenedlaethol 2021 yn dangos bod mwy na 300 o feicwyr modur wedi marw a mwy na 5,000 wedi cael anaf difrifol ar ffyrdd Prydain.
Bydd yr ymgyrch yn helpu beicwyr i adnabod sefyllfa SMIDSY ac amddiffyn eu hunain yn erbyn y gwrthdrawiadau yma, yn ogystal â rhannu technegau beicio eraill gan rai o feicwyr gorau’r DU.
Mae gwefan Ride Craft Hub newydd yn cael ei lansio a fydd yn casglu awgrymiadau ac esboniadau gan feicwyr proffesiynol er mwyn helpu beicwyr modur i yrru eu beiciau yn well, ac i leihau niwed i feicwyr ar y ffyrdd.
I ddangos ein cefnogaeth i’r ymgyrch, bydd ein swyddogion yn ymgysylltu â beicwyr dros y gwyliau banc sydd ar ddod a thu hwnt i hynny er mwyn eu hannog nhw i yrru’n well ac yn fwy diogel yn ogystal â chynnal gweithgareddau gorfodi ledled Gwent.
I ddysgu mwy ynghylch darllen y sefyllfa ar y ffordd, gwyliwch fideo Arolygydd Leighton Healan sy’n dangos sut i feicio’n ddiogel yn ystod yr haf.