Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymchwiliad dan arweiniad swyddogion troseddau difrifol a threfnedig wedi arwain at nifer o gyhuddiadau i ddau ddyn o Gaerdydd.
Ddydd Gwener 10 Mai, arestiodd swyddogion ddyn 19 oed ar amheuaeth o ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A (crac cocên a chocên), bod â chyffuriau Dosbarth B (canabis) yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, a bod â chyllell yn ei feddiant.
Cafodd ei gyhuddo o’r troseddau yma yn ddiweddarach ac ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Sadwrn 11 Mai, lle caniatawyd mechnïaeth gydag amodau iddo.
Ddydd Gwener, arestiodd swyddogion fenyw 44 oed o Gaerffili hefyd, ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A ar ôl i swyddogion weithredu gwarant mewn eiddo preswyl yn y dref. Mae hi wedi cael ei rhyddhau tra bod ymchwiliad yn parhau.
Dydd Llun, arestiodd swyddogion ddyn 19 oed, o ardal Llanisien, ar amheuaeth o ymwneud â chyflenwi cyffuriau.
Cafodd ei gyhuddo o’r canlynol:
Ymddangosodd y dyn 19 oed gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mawrth 14 Mai, lle cafodd ei remandio i’r ddalfa.
Bydd y ddau ddyn yn ymddangos gerbron y llys eto ym mis Mehefin.