Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd swyddogion chwilio arbenigol â’r tîm plismona cymdogaeth ym Mhilgwenlli, Casnewydd, ddydd Iau 2 Mai i chwilio am arfau, gan ddod o hyd i 14 o eitemau llafnog.
Sefydlwyd cell chwilio ar Francis Drive cyn i swyddogion, gan gynnwys triniwr cŵn, chwilio’n systematig am arfau oedd wedi cael eu cuddio neu eu gwaredu mewn cloddiau, dodrefn stryd, draeniau a mwy.
Yn ystod y dydd daeth swyddogion o hyd i saith o gyllyll a saith o eitemau llafnog a fyddai’n gallu cael eu defnyddio fel arfau.
Meddai Arolygydd Hannah Welti, a arweiniodd yr ymgyrch:
“Mae’r ymgyrch yma’n rhan o Sceptre, ein gwaith trwy gydol y flwyddyn i fynd i’r afael â throseddau cyllyll a thrais difrifol.
“Defnyddiodd ein tîm gyfarpar fel synwyryddion metel, magnedau, ysgolion, tortshis, pladuriau llaw, codwyr draeniau a mwy i chwilio’r ardal yn fanwl gyda’r nod o gael gwared ag unrhyw beth a allai gael ei ddefnyddio fel arf.
“Mae ymgyrchoedd ataliol fel un heddiw yn ein helpu ni i atal troseddau treisgar, diogelu’r cyhoedd a thawelu meddwl trigolion ein bod yn rhoi sylw i unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw.
“Yn ogystal â rhoi tawelwch meddwl i’r cyhoedd, mae’r ymgyrchoedd yma’n gallu bod yn gyfle gwych i ymgysylltu â phobl, esbonio peryglon cario cyllyll, a gweithio gyda’n partneriaid i ddargyfeirio a mynd i’r afael â phobl sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
“Rydym am i’n cymunedau wybod na fyddwn yn goddef unrhyw fath o drosedd neu anhrefn sy’n rhoi’r cyhoedd mewn perygl ac y byddwn yn gweithredu pan fyddwn yn derbyn unrhyw wybodaeth.
“Mae gan bob un ohonom ni ran i’w chwarae yn mynd i’r afael â throseddau cyllyll yn ein cymunedau, a hoffwn barhau i annog aelodau’r cyhoedd i rannu unrhyw wybodaeth sydd gennych chi gyda ni, gan fod hynny’n helpu ein gwaith ni.
“Mae pob cyllell sy’n cael ei chymryd oddi ar y stryd yn gallu atal bywyd rhag cael ei golli.”