Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent yn ymuno â heddluoedd ledled y wlad i godi ymwybyddiaeth am beryglon cario cyllyll a llafnau.
Mae Sceptre - ymgyrch Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu i fynd i'r afael â throseddau cyllyll a thrais difrifol - yn ddull sy'n cael ei ddefnyddio gydol y flwyddyn i fynd i'r afael â'r troseddau yma. Mae'n:
Trwy gydol yr wythnos, bydd swyddogion Gwent yn cynnal patrolau pwrpasol ar draws y pum ardal awdurdod lleol ac yn gwneud cyflwyniadau mewn ysgolion i godi ymwybyddiaeth o’r effaith erchyll y gall troseddau cyllyll ei chael ar unigolion, teuluoedd, a’n cymunedau.
Fel rhan o'r ymgyrch, rydym yn apelio ar bobl i ildio cyllyll ac arfau eraill i ni.
Mae biniau ildio cyllyll wedi cael eu gosod mewn pum gorsaf heddlu yng Ngwent, i ganiatáu i bobl gael gwared ar gyllyll a llafnau peryglus yn ddiogel ac yn ddienw.
Bydd y biniau yn y gorsafoedd canlynol a gellir eu defnyddio yn ystod yr amseroedd hyn:
13 - 19 Mai 2024
Gofynnir i bobl fod yn ofalus wrth gludo a gwaredu’r cyllyll yn y biniau ildio yma, ac i lapio’r llafn yn ddiogel cyn ei roi yn y bin fel y gellir cael gwared arnynt yn ddiogel.
Bydd swyddogion o ganolfan datrys problemau’r gwasanaeth yn gweithio gyda thimau Safonau Masnachu trwy gydol yr ymgyrch, a byddant yn mynd i siopau ledled Caerffili, Casnewydd a Sir Fynwy i siarad am y cynllun gwerthwyr cyfrifol.
Meddai Uwch-arolygydd Ryan Francis:
"Does dim lle i gyllyll ar strydoedd Gwent, a thrwy Sceptre mae gennym ni ddull amrywiol mewn lle i sicrhau bod y cyhoedd yn cadw'n ddiogel, bod troseddwyr yn cael eu dal a'u herlyn, a bod y genhedlaeth nesaf yn deall peryglon cario cyllell.
"Dim ond rhan o'n dull ni o fynd i'r afael â throseddau cyllyll yw dal pobl sy'n cario cyllyll, atafaelu arfau ac arestio pobl.
“Rydym yn gweithio gyda phartneriaid, fel awdurdodau lleol, ysgolion a Fearless, i ddeall y cymhelliad dros gario llafn yn well, ac i ddysgu pobl nad yw cario un yn eich gwneud chi'n fwy diogel; yn hytrach mae'n eich rhoi chi mewn mwy o berygl. Rydym yn gweithio gyda gwerthwyr i sicrhau bod cyllyll yn cael eu gwerthu'n ddiogel ac yn gyfrifol, a byddwn yn cynnal cyrchoedd cyllyll ac yn stopio a chwilio pobl er mwyn eu tynnu nhw oddi ar ein strydoedd.
"Ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o drosedd neu anhrefn sy'n ymwneud ag arfau ac rydym eisiau i'n cymunedau wybod y gallant ddod atom ni gydag unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am drais difrifol yn ein cymunedau.
“Mae pob cyllell a gaiff ei thynnu oddi ar y stryd, o bosibl yn fywyd arall wedi’i achub.”
Cymorth a chyngor
Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth am bobl sy’n ymwneud â throseddau cyllyll neu unrhyw bryderon, ffoniwch ni ar 101 neu anfonwch neges uniongyrchol atom ni drwy Facebook neu X. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.
Gall unrhyw un sy’n poeni am rywun neu’n chwilio am gymorth ei hun fynd i knifefree.co.uk i gael cyngor.
Os ydych yn teimlo o dan fygythiad, mewn perygl neu’n ofnus am ddioddef trosedd cyllyll, ystyriwch: