Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu Lee Crewe, fu farw ddydd Mawrth 14 Mai, wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud ei fod yn ‘hyfryd y tu mewn a thu allan'.
Galwyd swyddogion i Chepstow Road, Casnewydd, ddydd Mawrth 14 Mai wedi i Lee gael ei ddarganfod yn anymwybodol gydag anafiadau difrifol.
Cadarnhaodd parafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn hwyrach ei fod wedi marw; mae ei deulu yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae teulu Lee bellach wedi talu teyrnged iddo gan ddweud:
"Roedd Lee yn hyfryd, y tu mewn a thu allan.
"Roedd ganddo bersonoliaeth heintus a oedd bob amser yn goleuo ystafell.
"Bydd gennym bob amser gwlwm na fydd yn torri a bydd bob amser yn ein meddyliau. Tan y gwnawn gwrdd eto ein mab annwyl."
Arestiwyd dyn o Gasnewydd, 21 oed, ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae’n dal i fod yn nalfa’r heddlu ar hyn o bryd.
Nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r farwolaeth ac ar hyn o bryd rydym yn credu ei fod yn ddigwyddiad unigol.
Mae swyddogion yn yr ardal yn gwneud ymholiadau, os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth, siaradwch â nhw.
Rydym yn dal i apelio am wybodaeth, os oes gennych unrhyw wybodaeth, hyd yn oed os ydych chi’n credu ei fod yn ddibwys, a allai gynorthwyo ein hymholiadau, ffoniwch 101 neu anfonwch neges uniongyrchol atom ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddyfynnu 2400157385.
Gofynnir i unrhyw un a oedd â lluniau dashcam, neu deledu cylch cyfyng, o Chepstow Road, neu yn yr ardal o gwmpas Merriott Place, rhwng 4.45pm a 7pm i gysylltu â ni hefyd.
Gallwch hefyd gysylltu â Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555 111 gydag unrhyw fanylion.