Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dros ddau ddiwrnod yr ymgyrch (24-25 Ebrill) anfonwyd swyddogion i orsafoedd gan gynnwys Caerdydd Canolog, Casnewydd, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr ac ar wasanaethau ar draws y rhwydwaith trenau.
Gan dargedu'r rhwydwaith trenau ledled de Cymru, gweithiodd yr heddluoedd gyda'i gilydd i adnabod, dal ac amddiffyn pobl sy'n ymwneud â llinellau cyffuriau, neu sydd fwyaf agored i gael eu hecsbloetio gan linellau cyffuriau.
Roedd gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr ieuenctid o Gyngor Dinas Caerdydd, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gwasanaeth iechyd meddwl Cyngor Abertawe ar y safle, ynghyd â GIG Cymru a gwasanaeth Cymorth Cymunedol Cyffuriau ac Alcohol BAROD o CAVDAS, i gefnogi, diogelu a rhoi triniaeth i bobl, gan wneud y 'foment gyraeddadwy' yn realiti. Roedd y rhwydwaith cymorth yma'n allweddol i'r 15 atgyfeiriad cyffuriau ac alcohol a wnaed, a gafodd eu trin ar yr un diwrnod.
Yn ystod yr ymgyrch llwyddodd swyddogion i stopio a chwilio 90 o bobl ac arestio chwech o bobl, gan gynnwys dyn 22 oed o Lundain a oedd â 1.5 cilogram o ganabis yn ei feddiant, a bachgen 17 oed o Gaerdydd a oedd â chyllell yn ei feddiant.
Yn ogystal â'r arestiadau cadarnhaol, atafaelwyd tri arf, tri kilo o dabledi a bron i £10,000 mewn arian parod.
Gweithiodd yr heddluoedd gyda'i gilydd a defnyddiwyd adnoddau arbenigol, fel cŵn cyffuriau, bwâu metel a thactegau gweladwy a chudd i gipio arfau, cyffuriau ac arian anghyfreithlon, ac i adnabod oedolion agored i niwed sy'n cael eu hecsbloetio gan gangiau llinellau cyffuriau.
Meddai Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Williams, arweinydd y Tasglu Llinellau Cyffuriau:
“Mae canlyniadau'r ymgyrch yma'n dangos y cydweithio effeithiol rhyngom ni, ein cydweithwyr plismona a'n partneriaid. Dylai'r arestiadau ac atafaeliadau fod yn rhybudd amlwg i droseddwyr llinellau cyffuriau - byddwch yn cael eich dal a'ch dwyn gerbron y llysoedd.
"Mae adnabod a diogelu pobl sy'n cael eu hecsbloetio i symud cyffuriau ar y rheilffyrdd, ochr yn ochr â chipio'r cyffuriau niweidiol cyn iddynt gyrraedd ein cymunedau, yn flaenoriaeth i ni.
"Rydym yn gwbl ymroddedig i sicrhau na fydd unrhyw groeso ar y rhwydwaith trenau i gyflenwyr cyffuriau symud eu nwyddau."
Meddai Ditectif Brif Arolygydd Mike Preston o Heddlu Gwent:
"Mae ein gwaith yr wythnos yma, ochr yn ochr â'n partneriaid, yn dangos rhai o'r dulliau niferus rydym yn eu defnyddio i fynd i'r afael â llinellau cyffuriau a’r mathau eraill o ymddygiad troseddol sy’n gysylltiedig â nhw.
"Rydym wedi ymroi i amddiffyn pobl sydd mewn perygl rhag cael eu hecsbloetio, a dwyn y rhai sy'n gyfrifol o flaen eu gwell.
"Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am ddelio cyffuriau yn eich cymuned, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu gweithredu."
Meddai Ditectif Uwch-arolygydd Mark Lewis o Heddlu De Cymru:
“Mae'n hollbwysig ein bod yn gweithio gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â Llinellau Cyffuriau gan fod y rhai sy'n ymwneud â nhw yn ecsbloetio pobl agored i niwed, gan gynnwys plant a phobl â phroblemau iechyd meddwl neu orddibyniaeth ar sylweddau, trwy eu recriwtio nhw i ddosbarthu cyffuriau.
"Rydym wedi ymroi i frwydro yn erbyn delio cyffuriau ac ymddygiad troseddol Llinellau Cyffuriau ac, fel arfer, rydym yn gofyn i drigolion y mae eu cymunedau'n dioddef oherwydd gweithgareddau'n ymwneud â chyffuriau anghyfreithlon barhau i riportio eu pryderon ac amheuon wrthym ni, a byddwn yn gweithio'n ddiflino i dargedu'r rheini sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau”.
Gallwch riportio unrhyw bryderon wrth Heddlu Trafnidiaeth Prydain trwy anfon neges destun at 61016, ffonio 0800 40 50 40, neu drwy lawr lwytho'r ap Railway Guardian.
Gallwch roi gwybodaeth yn ddienw i Crimestoppers hefyd, ar 0800 555 111 neu drwy gyfrwng eu ffurflen ar-lein.