Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
(Ben Wong)
Cafodd Ben Wong ei ddedfrydu i wyth mlynedd a phedwar mis yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener 15 Tachwedd ar ôl pledio'n euog am ei ran wrth gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a B.
Roedd y grŵp troseddau cyfundrefnol yn gweithredu llinell gyffuriau rhwng Bryste ac Abertyleri, lle byddai negeswyr yn cludo cocên a chanabis dros Afon Hafren ac i mewn i’r dref yn y cymoedd.
Yna defnyddiwyd pobl ifanc ac eraill sy’n agored i niwed i werthu'r cyffuriau.
Lansiwyd yr ymchwiliad ym mis Chwefror 2023 ar ôl i gyn-gyflogwr un o'r grŵp roi gwybod i'r heddlu bod negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau wedi eu darganfod ar ei liniadur gwaith.
Archwiliwyd y ddyfais yn dilyn hynny a daeth swyddogion o hyd i ganghennau grŵp troseddau cyfundrefnol â gwreiddiau yn Abertyleri - gyda Ben Wong wrth y llyw.
Cynhaliwyd pum gwarant ym mis Awst y llynedd, pan wnaeth swyddogion, gan gynnwys ditectifs o'r tîm troseddau difrifol a chyfundrefnol, chwilio cyfeiriadau ar draws Blaenau Gwent.
Ymhlith yr eitemau y daethpwyd o hyd iddynt roedd canabis a chocên, arian parod a ffonau symudol – ffonau a oedd yn cynnwys rhagor o dystiolaeth o gyflenwi cyffuriau, camfanteisio a llinell gyffuriau.
Un o'r rhai a arestiwyd oedd Nigel Gravenor, a ddedfrydwyd heddiw hefyd. Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a naw mis ar ôl pledio'n euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Cafodd tri pherson arall dedfrydau wedi'u gohirio am eu rhan yn y fenter droseddol.
Dywedodd PC Owen Furlong, y swyddog yn yr achos:
"Roedd prif aelod y grŵp troseddau cyfundrefnol, Ben Wong, yn camfanteisio ar wendidau eraill ac yn ymfalchïo ynghylch hawlio budd-daliadau a pheidio â gorfod gweithio.
"Byddai negeswyr yn casglu'r cyffuriau o Fryste ac yna byddai gwerthwyr, gan gynnwys pobl ifanc a oedd yn cael eu hecsbloetio, yn cael cyffuriau i'w gwerthu. Roedd rhai hyd yn oed yn cael eu talu â chyffuriau.
"Cafodd eraill oedd â dyledion neu ddibyniaeth ar gyffuriau eu plymio'n ddyfnach i ddioddefaint trwy werthu cyffuriau i ariannu eu dibyniaeth tra’r oedd Wong yn byw bywyd moethus wedi'i ariannu’n gyfan gwbl drwy achosi dioddefaint i eraill yn y gymuned.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i sefyll gyda'n cymunedau i ddangos ein bod ni i gyd yn erbyn yr unigolion hyn sy'n camfanteisio ar bobl agored i niwed yn ein cymdeithas."
Nodiadau i olygyddion:
Gallwch roi unrhyw wybodaeth am amheuaeth o weithgarwch cyffuriau yn eich ardal chi drwy ein gwefan, drwy ffonio 101 neu drwy anfon negeseuon uniongyrchol atom ar ein tudalennau Facebook neu X, er mwyn inni allu gweithredu.
Fel arall, gallwch roi gwybod i Crimestoppers, yn ddienw, ar 0800 555 111.