Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd David Sisman yn treulio isafswm o 24 mlynedd yn y carchar am lofruddiaeth Lee Crewe, sy’n cael ei ddisgrifio gan ei anwyliaid fel ‘clamp o gymeriad’.
Mae dyn a ddihangodd i Fryste ar ôl llofruddio dyn o Gasnewydd a oedd yn ‘glamp o gymeriad’ wedi derbyn dedfryd o garchar am oes, gydag isafswm o 24 mlynedd.
Ymddangosodd David Sisman, 21, o Gasnewydd, gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Iau 28 Tachwedd lle y cafwyd ef yn euog fis diwethaf o lofruddio Lee Crewe.
Cafodd Lee, 36, ei drywanu gan Sisman ger Heol Cas-gwent yng Nghasnewydd, a bu farw yn y fan a’r lle er gwaethaf ymdrechion ein swyddogion, parafeddygon ac aelodau’r cyhoedd i’w gadw’n fyw.
Dihangodd Sisman a cheisiodd guddio’r hyn roedd wedi’i wneud trwy gael gwared ar yr arf, newid ei ddillad a theithio i Fryste’n ddiweddarach.
Serch hynny, daeth swyddogion o hyd iddo’n gyflym, a chafodd ei arestio a’i gyhuddo’n ddiweddarach o lofruddiaeth.
Dywedodd rhieni Lee, Joanne a David Crewe:
“Cafodd ein byd ei chwalu ar 14 Mai pan gafodd ein mab Lee ei drywanu a’i lofruddio gan David Sisman.
“Roedd Lee yn glamp o gymeriad, yn fachgen doniol a oedd yn annwyl i gymaint o bobl, ac nid oedd yn haeddu cael ei gymryd yn 36 oed.
“Mae’r chwe mis diwethaf wedi bod yn hunllef, ond rydyn ni eisiau diolch i Heddlu Gwent am eu holl waith caled a’r cymorth maen nhw wedi ei roi i ni wrth i ni ddelio gyda cholli Lee.
“Ni fydd unrhyw beth yn dod a Lee yn ôl, ond bydd y ddedfryd yma’n gwneud yn siŵr bod ein strydoedd ni’n rhydd rhag y llwfrgi ffiaidd David Sisman, a gobeithio y bydd yn gwneud i bobl feddwl dwywaith cyn penderfynu cario cyllell.”
Meddai’r uwch swyddog ymchwilio, Ditectif Brif Arolygydd Virginia Davies:
“Mewn mater o eiliadau, cafodd Lee Crewe anaf marwol mewn gweithred dreisgar, giaidd a disynnwyr.
“Diolch i gymorth y gymuned ac ymateb cyflym ein cydweithwyr, daethpwyd o hyd i Sisman y diwrnod canlynol, ac fe wnaethom lwyddo i greu darlun o’r amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth Lee.
“Mae gweithredodd y dyn peryglus yma wedi dinistrio bywyd teulu a ffrindiau Lee, a chydymdeimlwn gyda nhw.
“Rwyf eisiau diolch i deulu Lee am eu cymorth trwy gydol ein hymchwiliad cymhleth, ac am eu cryfder yn ystod yr achos llys. Rwyf yn gobeithio y bydd euogfarn Sisman yn dod â rhywfaint o gysur iddyn nhw.
“Mae cyllyll yn distrywio bywydau ac mae’r achos yma’n ein hatgoffa eto o’r effaith barhaol mae cario cyllell yn gallu ei chael ar bobl. Os ydych chi’n cario cyllell, dim ond mater o amser yw hi cyn i chi ei defnyddio, neu iddi gael ei defnyddio arnoch chi.
“Fel bob amser, mae’r cyhoedd yn chwarae rhan hollbwysig yn helpu i gadw cyllyll oddi ar ein strydoedd. Gofynnwn yn daer arnoch chi i riportio unrhyw wybodaeth sydd gennych chi am gyllyll yn ein cymunedau wrthym ni. Trwy wneud hynny, fe allech chi achub bywyd rhywun.”