Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Datgymalodd swyddogion ym Mlaenau Gwent ffatri ganabis fawr wrth weithredu gwarant dydd Gwener 1 Tachwedd.
Gweithredodd y tîm plismona cymdogaeth warant mewn eiddo ar ystâd ddiwydiannol yn Llanhiledd tua 12.30pm, cyn chwilio’r eiddo’n drwyadl.
Daethant o hyd i fenter fasnachol fawr a oedd yn cynnwys cannoedd o blanhigion a geriach cysylltiedig â chyffuriau.
Yn dilyn chwiliad arall daliodd swyddogion ddau o bobl a’u harestio ar amheuaeth o droseddau cyffuriau.
O ganlyniad, cyhuddwyd dau ddyn, 29 a 40 oed, o gynhyrchu cyffur rheoledig dosbarth B a byddant yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd dydd Llun 4 Tachwedd.