Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent wedi arestio pedwar o bobl o Gasnewydd ar ôl gweithredu cyfres o warantau ddydd Llun 25 Tachwedd.
Roedd sawl tîm, gan gynnwys uned troseddau difrifol a threfnedig y gwasanaeth, tîm plismona cymdogaeth dwyrain Casnewydd, a swyddogion plismona ffyrdd yn rhan o’r ymgyrch sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad i gang y credir ei fod yn cyflenwi cyffuriau dosbarth A ledled Casnewydd a Thorfaen.
Atafaelwyd mwy na £13,000 mewn arian parod a chyffuriau dosbarth B (canabis) o un o’r cyfeiriadau, a arweiniodd at arestio dau o bobl.
Mae dyn 30 oed yn y ddalfa o hyd ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau rheoledig dosbarth A a bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant.
Arestiwyd menyw 28 oed hefyd ar amheuaeth o fod ag eiddo troseddol yn ei meddiant a chafodd ei rhyddhau dan ymchwiliad yn ddiweddarach.
Gwnaed dau arést arall mewn ail gyfeiriad ar ôl i swyddogion ddod o hyd i dros £5,000 mewn arian parod, a chafodd fan ei chwilio y tu allan i’r cyfeiriad a oedd yn cynnwys llawer o fagiau o gyffuriau dosbarth A, y credir i fod yn gocên.
Arestiwyd dyn 26 oed ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau rheoledig dosbarth A a bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant; mae yn y ddalfa o hyd.
Arestiwyd menyw 26 oed ar amheuaeth o fod ag eiddo troseddol yn ei meddiant a chafodd ei rhyddhau dan ymchwiliad yn ddiweddarach.
Mae ymholiadau’n parhau a gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101, gan grybwyll rhif cofnod 2400306648, neu anfonwch neges uniongyrchol atom ni ar gyfryngau cymdeithasol.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.