Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydyn ni wedi cyhuddo pedwar o bobl o ymgais i lofruddio yn dilyn adroddiad am ymosodiad ar Nash Road, Casnewydd, dydd Iau 7 Tachwedd.
Arestiwyd dau fachgen 16 oed a dau fachgen 17 oed ar amheuaeth o ymosodiad adran 18 ond cawsant eu cyhuddo’n ddiweddarach o ymgais i lofruddio.
Mae’r pedwar ohonynt wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd a chafodd y pedwar ohonynt eu remandio i’r ddalfa.
Aethpwyd â dyn 18 oed i’r ysbyty i gael triniaeth a chafodd ei ryddhau yn ddiweddarach.
Meddai Uwch-arolygydd Jason White:
“Yn dilyn y penderfyniadau i arestio a chyhuddo mewn cysylltiad â’r drosedd yma, hoffwn atgoffa pobl o’u cyfrifoldebau i osgoi effeithio ar yr ymchwiliad gweithredol yma.
“Mae’n hollbwysig bod pobl yn ystyried y dôn a’r iaith a ddefnyddir mewn sylwadau sy’n cael eu postio ar-lein yn sôn am unrhyw berson dan amheuaeth o gyflawni trosedd.
“Gallai’r sylwadau yma effeithio ar ein gallu i ddwyn unrhyw un sydd wedi cael ei ganfod i fod wedi cyflawni trosedd gerbron y llysoedd, ond gallai hefyd arwain at ymchwiliad i droseddau eraill sydd â’r bwriad o rwystro’r broses gyfreithiol.”
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth am yr ymosodiad gysylltu â ni ar ein gwefan, ein ffonio ni ar 101, neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar gyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll rhif cofnod 2400371556.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw gyda manylion ar 0800 555 111.