Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent yn ymuno â gwasanaethau ledled y wlad i wneud saith diwrnod o waith troseddau gwrth-gyllyll yn rhan o Sceptre, yr wythnos ymwybyddiaeth genedlaethol.
Bydd swyddogion ar draws ein timau plismona cymdogaeth ac unedau troseddau difrifol a chyfundrefnol yn dod at ei gilydd i gynnal gwarantau, chwiliadau a gwneud gwaith ymchwilio.
Bydd y timau hefyd yn parhau i rannu cyngor atal troseddau mewn ysgolion a'r gymuned ehangach i dynnu sylw at yr effaith y gall troseddau cyllyll ei chael ar ein cymdogaethau.
Mae troseddau cyllyll yng Ngwent wedi gostwng 2.3% yn y 12 mis hyd at fis Medi 2024, ac mae 11 yn llai o droseddau 'wedi'u galluogi gan gyllyll' nag yn y 12 mis hyd at fis Medi 2023.
Er gwaethaf hyn, rydym yn dal i weld digwyddiadau trasig yn ymwneud â chyllyll sy'n cael effaith ddinistriol ar deuluoedd a ffrindiau.
Yn ddiweddarach y mis hwn, mae disgwyl i David Sisman gael ei ddedfrydu ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog o lofruddiaeth Lee Crewe, 36 oed, yng Nghasnewydd yn gynharach eleni.
Clywodd y llys fod Mr Crewe wedi marw o ganlyniad i un clwyf wedi iddo gael ei drywanu yn ei frest.
Mae swyddogion yn parhau i weithio'n ddiflino i leihau'r risg o ddigwyddiadau tebyg ac i ddiogelu cymunedau rhag trais difrifol.
Dywedodd y Rhingyll Phill Jones, sy'n arwain ymgyrch Sceptre Gwent:
"Er bod cymryd cyllyll ac arestio yn rhan bwysig o'n dull gweithredu, mae ymyriadau eraill yn cynnwys gwaith addysgol mewn ysgolion, amnestau cyllyll a delio â hygyrchedd arfau trwy weithio gyda manwerthwyr a mwy.
"Rydym hefyd yn parhau i weithio gyda manwerthwyr i gadw cyllyll allan o'r dwylo anghywir. Mae hyn yn cynnwys ymgyrchoedd profion prynu a menter gwerthwyr cyfrifol, lle rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a manwerthwyr lleol i sicrhau bod eitemau â llafn yn cael eu gwerthu'n gyfreithiol ac yn gyfrifol.
"Does dim esgusodion. Nid yw cario cyllell yn eich amddiffyn chi. Gallant ddinistrio bywydau, a dyna pam mae’n bwysig hefyd ein bod yn parhau i siarad â phobl ifanc i'w haddysgu am ganlyniadau cario eitemau â llafn.
"Fel bob amser, mae gan y cyhoedd ran hanfodol wrth helpu i gadw cyllyll oddi ar ein strydoedd. Gallwch fod yn llygaid ac yn glustiau i ni yn ein brwydr yn erbyn trais difrifol a throseddau cyllyll, a thrwy roi gwybod i ni, fe allech helpu i achub bywyd."
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Amseroedd agor bin Amnest
Mae biniau amnest cyllyll wedi'u gosod mewn pum gorsaf heddlu yng Ngwent, gan ganiatáu i bobl waredu cyllyll a llafnau peryglus yn ddiogel, ac yn ddienw.
Bydd y biniau yn y gorsafoedd canlynol ac yn hygyrch yn ystod yr amseroedd hyn:
Gofynnir i bobl sy'n dymuno gadael cyllyll yn y biniau ildio hyn eu storio'n ddiogel wrth eu cludo ac yna pecynnu'r llafnau cyn eu rhoi yn y biniau fel y gellir eu symud yn ddiogel.