Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daeth bron i 100 o bobl mewn gwisg ffansi i’r digwyddiad llawn dychryn, lle cynhaliodd swyddogion nifer o gemau a gweithgareddau ar thema Calan Gaeaf.
Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfa Ddydd Rhymni ac ymunodd swyddogion cefnogi cymuned gyda gweithwyr gwasanaeth ieuenctid o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i siarad am ddiogelwch yn y gymuned a’r effaith mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gallu ei chael ar y dref.
Meddai Arolygydd Lysha Thompson:
“Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn Rhymni dros Galan Gaeaf – daeth dros 80 o bobl ifanc i gwrdd â’r swyddogion.
“Daeth ein tîm NXT GEN â’n fan ymgysylltu i’r dref, gan roi cyfle i bobl ifanc chwarae gemau fideo wrth ddysgu am ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau cysylltiedig â thân, a chanlyniadau yfed o dan oed ac ymddygiad afreolus.
“Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi lansio ein hymgyrch Parchu Rhymni, strategaeth tri cham gyda’r nod o waredu’r ardal o droseddwyr difrifol, mynd i’r afael â throsedd ac adfer balchder yn yr ardal.
“Mae rhan o’r gwaith yma’n cynnwys gweithgareddau ymgysylltu, ac mae digwyddiadau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol rhwng ein gwasanaeth heddlu a phobl ifanc, ac yn dysgu trigolion am effaith bosibl eu hymddygiad, a’u dewisiadau bywyd, ar eu tref.
“Hoffwn ddiolch i Matt Knight a’r bartneriaeth alcohol gymunedol am eu cymorth gyda’r digwyddiad Little Cop Shop of Horrors.”
Yn ddiweddar arweiniodd gwaith swyddogion gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili at lansiad ymgyrch ymwybyddiaeth alcohol cymunedol newydd yn y fwrdeistref.
Mae’r bartneriaeth newydd yma’n annog sgyrsiau gonest am beryglon a chanlyniadau yfed dan oed, ac mae swyddogion yn gweithio gydag ysgolion er mwyn dysgu disgyblion i wneud dewisiadau cyfrifol.
Yn ystod y lansiad ym mis Hydref, dywedodd Kate Winstanley, Cyfarwyddwr y Bartneriaeth Alcohol Gymunedol (CAP): " Rydyn ni’n gwybod o ymchwil helaeth bod yfed o dan oed yn gallu arwain at ganlyniadau difrifol, o darfu ar addysg i arwain pobl ifanc i wneud pethau peryglus fel defnyddio cyffuriau, trais, a phroblemau iechyd hirdymor. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn helpu i lywio plant a phobl ifanc tuag at blentyndod heb alcohol."
Ychwanegodd: "Mae gan bartneriaethau CAP enw da am leihau cyflenwad alcohol i blant dan oed, cadw rheolaeth ar ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol, a lleihau yfed ar y stryd gan blant dan oed. Rydyn ni’n cael boddhad go iawn wrth weld partneriaid lleol yn ymuno i amddiffyn ein plant a phobl ifanc a’u helpu nhw i fyw bywydau mwy iach a diogel."
Aeth Arolygydd Thompson ymlaen i ddweud:
“Rydyn ni’n aml yn gweld cynnydd mewn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus adeg yma o’r flwyddyn, ond rwy’n falch i ddweud bod y digwyddiad Calan Gaeaf wedi cael effaith gadarnhaol gan fod llai o adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y noson.”