Stamp amser presennol: 23/06/25 13:57:25
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Gwent Police crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Sbotolau ar Wobrau'r Heddlu: Aelodau Clwb Bowlio Pant-teg yn achub merch ifanc

Cynnwys y prif erthygl

Newyddion
Cyhoeddwyd: 15:55 27/11/24

Public Bravery.jpg

Mae saith o bobl wedi derbyn gwobr gan Heddlu Gwent ar ôl iddyn nhw ddangos dewrder eithriadol a charedigrwydd wrth helpu pobl mewn angen.

Mae Gwobrau Dewrder y Cyhoedd yn cydnabod aelodau'r cyhoedd sydd wedi ymyrryd mewn sefyllfaoedd o berygl neu fygythiad i fywyd, neu sydd wedi rhoi cymorth i swyddogion mewn amgylchiadau tebyg.

Ymysg yr enillwyr yn y seremoni, a gynhaliwyd ym Maesycwmer ddydd Mawrth 26 Tachwedd, roedd Rebecca a Lee McDonald a roddodd gymorth i ddyn a oedd wedi cael ei drywanu.

Gwnaeth y ddau ohonynt bopeth o fewn eu gallu i helpu'r dyn ac i ddiogelu bywyd cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd, heb unrhyw oedi na phryder am eu diogelwch eu hunain.

Cafodd gweithwyr cynnal a chadw'r tiroedd Dominic Walmer ac Ian Dudley eu cydnabod hefyd am gynorthwyo swyddogion gyda throseddwr a drodd yn dreisgar yn ystod arést.

Enillwyr olaf y noson oedd Andrew Winstone, Ross Goodwin a Phillip Turner, a achubodd ferch fach a oedd wedi cwympo i bwll o ddŵr. Gwnaethant weinyddu CPR ac adfywio'r ferch.

Yn ôl yn 2022, helpodd y tri aelod o Glwb Bowlio Pant-teg Grace, a oedd wedi cwympo i mewn i'r dŵr ym Mharc Fishponds ac a oedd yn ddiymateb.

Roedd Hannah a Sam, rhieni Grace, wedi mynd i'r parc gyda'u dau blentyn cyn i Grace fynd ar goll ac, ar ôl chwilio'r parc gydag aelodau'r clwb bowlio, daethpwyd o hyd iddi yn y pwll.

"Doedden ni erioed wedi profi’r fath ddychryn a gofid" meddai Sam, "roedden ni'n credu'n syth ein bod ni wedi colli ein merch. 

“Does dim un rhiant yn dychmygu bod yn y sefyllfa yna - gweld eu plentyn ddim yn anadlu - ac er ein bod ni'n dau'n gwybod sut i weinyddu CPR, roedd y ddau ohonom ni wedi rhewi gan ofn.

"Oni bai am Ross, Andrew a Phil yn gweithio arni ac yn ail gychwyn curiad ei chalon fyddai hi ddim gyda ni heddiw.

"Allwn ni ddim dechrau disgrifio'r rhyddhad pan ddywedodd un o'r dynion ei bod hi'n anadlu, ond yn y foment honno, roedd y ddau ohonom ni mor ddiolchgar am y fath weithred gan ddieithriaid."

Meddai Phil, un o'r tri bowliwr a helpodd Grace i anadlu eto: "Cymerodd fy hyfforddiant ac adrenalin drosodd.  Cymerais Grace a'i gorwedd hi ar y llawr, gan wirio am arwyddion bywyd, ac yna dechreuais CPR.

Gofynnais i Andrew helpu a gwnaethom ni barhau gyda CPR. Diolch i'r drefn dechreuodd Grace ymateb ar ôl amser byr. 

"Fel tad-cu a hen dad-cu plant yr un oedran fe darodd fi'n sydyn pa mor enfawr oedd beth oedd wedi digwydd ac roeddwn i'n amlwg mewn sioc - torrais i lawr gartref wrth ddweud wrth fy mhartner am y digwyddiad."

Aethpwyd â Grace i'r ysbyty yng Nghaerdydd i gael gofal cynnal bywyd, cyn iddi gael ei throsglwyddo i Gaerlŷr i gael gofal pellach oherwydd difrifoldeb ei chyflwr.

Ar ôl nifer o wythnosau yn yr ysbyty, gwellodd ei chyflwr yn sylweddol a chafodd ei rhyddhau. 

"Ymladdodd Grace ei gorau a gwellodd yn wyrthiol,“ meddai Sam. "Doedd y meddygon a'r nyrsys ddim yn gallu credu'r ferch fach o'u blaenau nhw a sut roedd hi wedi dod trwy'r profiad ofnadwy mor gyflym.

"Mae wedi achosi newid bach yn y negeseuon yn ymennydd Grace a chafodd rhywfaint o ddifrod i'w hymennydd. Ar hyn o bryd nid yw'n cael unrhyw effaith arni ac mae'n bosibl na fydd yn cael unrhyw effaith.

"Amser a ddengys ond ar hyn o bryd mae hi'n byw bywyd normal a hapus iawn."

Ychwanegodd bod Grace, sydd yn bump oed yn awr, yn ferch fach hapus a bywiog iawn, sy'n gwneud i bawb wenu gyda'i chwerthiniad heintus a'i hyder.

Cadwodd Phil, Ros ac Andy mewn cysylltiad â'r teulu er mwyn cael gwybod sut roedd Grace yn dod yn ei blaen ac roedden nhw wrth eu boddau i glywed am ei chynnydd cadarnhaol.

“Mae'r darlun yn fy meddwl i ohoni'n aros i ddod gartref o'r ysbyty yn cymryd lle'r darlun erchyll ohoni'n gorwedd o fy mlaen, cymaint angen fy help" meddai.

"Mae'r wobr yn gwbl annisgwyl, gan fy mod i wedi gwneud beth fyddai unrhyw un arall wedi'i wneud yn y fath sefyllfa, ond mae'n anrhydedd bod wedi bod yn rhan o achub bywyd merch fach mor hyfryd."

Wrth ddiolch i'r tri bowliwr am eu hymdrechion i rwystro hunllef waethaf pob teulu, ychwanegodd rhieni Grace bod eu gweithredoedd wedi caniatáu i'w brodyr gael eu chwaer fach o hyd, ac i weddill ei theulu a'i ffrindiau gael oes o hapusrwydd oherwydd ei bod hi gyda ni o hyd.

“Ni fydd diolch, nac unrhyw eiriau eraill y gallwn ni eu dweud, byth yn ddigon,” meddai rhieni Grace.

"Mae gweithredoedd Andrew, Phil a Ross wedi ein galluogi ni i weld ein merch annwyl yn cael adfywiad.

"Chi yw'r bodau dynol mwyaf eithriadol ac mae'n fraint go iawn eich adnabod chi nawr ac i Grace gael arwr ym mhob un ohonoch chi."

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Gwent

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Ymunwch â ni
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.