Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydyn ni’n apelio am dystion ar ôl gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar yr A4042, Llanelen, tua 5.10pm dydd Iau 21 Tachwedd.
Aeth swyddogion i’r safle, ynghyd â phersonél o Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng Ford Ranger llwyd a cherddwr.
Aethpwyd â’r cerddwr, menyw 55 oed o Gasnewydd, i’r ysbyty ac mae hi yno o hyd mewn cyflwr difrifol. Mae ei theulu wedi cael gwybod.
Arestiwyd dyn 40 oed o Bont-y-pŵl ar amheuaeth o achosi anaf difrifol trwy yrru heb dalu sylw dyledus, gyrru cerbyd heb fod mewn cyflwr addas oherwydd cyffuriau, a gyrru dros y terfyn rhagnodedig ar gyfer cyffuriau.
Mae wedi cael ei ryddhau tra bod ein hymchwiliad yn parhau.
Rydyn ni’n gofyn i unrhyw un â lluniau TCCC, camera car, cloch drws, neu dystion a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, gysylltu â ni.
Gallwch ein ffonio ni ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu X, gan grybwyll rhif cofnod 2400387976, gydag unrhyw fanylion.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.