Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cawsom adroddiadau gan fodurwyr bod drychau ochr wedi cael eu tynnu oddi ar eu ceir, bod y drysau wedi cael eu cicio, neu fod pobl wedi cerdded dros y bonet a’r to.
Credir bod hyn wedi digwydd rywbryd rhwng hanner nos a 1am dydd Iau 26 Tachwedd.
Meddai Cwnstabl Heddlu Taylor Hughes:
“Rydyn ni wedi gweld cynnydd mewn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Parc Churchill, Caerffili yn ddiweddar, gydag adroddiadau am ddifrod troseddol a throseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus.
“Mae’r adroddiad diweddaraf am ddifrod troseddol ar Dylan Drive yn gwbl annerbyniol, ac rydyn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i adnabod y bobl sy’n gyfrifol a sicrhau nad yw’r math yma o ymddygiad yn digwydd eto.
“Rydyn ni’n cynnal mwy o batrolau yn yr ardal ac, yn rhan o bartneriaeth Caerffili Mwy Diogel, rydyn ni’n parhau i weithio gyda chydweithwyr o’r cyngor i roi mesurau ychwanegol mewn lle i atal ymddygiad afreolus.”
Os oes gennych chi wybodaeth rydych yn credu y gallai helpu swyddogion yn eu hymchwiliad i ddifrod troseddol, neu unrhyw wybodaeth am y cynnydd diweddar mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, gallwch roi gwybod i ni trwy riportio ar ein gwefan, neu drwy ffonio 101, gan grybwyll rhif cofnod 2400392781.
Fel arall, os hoffech chi roi gwybod yn ddienw, gallwch riportio wrth Crimestoppers. Gallwch lenwi ffurflen ar-lein yn ddienw, neu eu ffonio nhw ar 0800 555111.