Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Atafaelodd swyddogion a oedd yn gweithredu cyfres o warantau cysylltiedig â bridiau cŵn peryglus ac wedi’u gwahardd ddau gi o gyfeiriad yng Nglynebwy dydd Mercher 16 Hydref.
Digwyddodd y gwarantau ar ôl i ni dderbyn adroddiadau gan bobl yn lleisio pryder bod cŵn o frid wedi’i wahardd yn cael eu cadw yn y cyfeiriad.
Meddai Rhingyll Heddlu Dan Wise:
“Er bod yr anifeiliaid yn mynd i gael eu hasesu gan swyddogion deddfwriaeth cŵn, rydym yn amau nad ydyn nhw wedi cael eu cofrestru a’u bod nhw o frid sydd wedi’i wahardd.
“Rydyn ni’n deall bod bridiau wedi’u gwahardd yn achos pryder i lawer o bobl yn ein cymunedau ac rydyn ni’n asesu unrhyw wybodaeth a gawn ni gan y cyhoedd yn gyson ac yn cynllunio gwarantau fel rhai’r wythnos yma i wneud yn siŵr bod ein strydoedd yn ddiogel.
"Os ydych chi’n credu bod gennych chi wybodaeth am gi peryglus ble rydych chi’n byw, siaradwch â ni."
Cysylltwch â’r heddlu ar 101, ar gyfryngau cymdeithasol, neu ar y wefan os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am fridiau anghyfreithlon, cŵn peryglus, ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â chŵn, neu pan fydd cŵn yn rhan o unrhyw weithgarwch troseddol. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.
Arweiniad ar gŵn wedi’u gwahardd
Yn y Deyrnas Unedig, mae’n anghyfreithlon bod yn berchen ar rai bridiau o gŵn, sef:
Mae’n anghyfreithlon:
Ar 31 Rhagfyr 2023, daeth cam cyntaf y gwaharddiad XL Bully i rym ar ôl i’r brid gael ei ychwanegu at y Ddeddf Cŵn Peryglus 1991.
Daeth ail gam y gwaharddiad XL Bully i rym ym mis Chwefror. Bellach, mae hi’n drosedd bod yn berchen ar gi XL Bully yng Nghymru a Lloegr oni bai bod gan eich ci Dystysgrif Esemptio ac yswiriant trydydd parti. Rhaid cadw’r ci ar dennyn a rhaid iddo wisgo mwsel mewn man cyhoeddus. Os na ddilynir y rheolau yma, mae’n bosibl bod gan yr heddlu’r pŵer i atafaelu’r ci.
Mae gan Lywodraeth y DU ragor o gyngor ynglŷn â bod yn berchen ar gŵn XL Bully yma: https://www.gov.uk/government/collections/xl-bully-dogs