Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arestiwyd pedwar dyn yn dilyn cyfres o saith gwarant ledled Casnewydd yn ystod oriau mân bore dydd Iau.
Roedd rhyw 35 o swyddogion o sawl tîm, gan gynnwys troseddau difrifol a threfnedig, y tîm plismona cymdogaeth a’r tîm plismona ffyrdd a gweithrediadau cefnogi, yn rhan o weithredu’r gwarantau a ddigwyddodd ar 24 Hydref.
Mae’r dynion, sy’n 26, 27, 29 a 36 oed ac yn dod o Gasnewydd, yn y ddalfa o hyd ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o nifer o droseddau, gan gynnwys cynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Meddai Ditectif Arolygydd Ian Bartholomew, o’r uned troseddau difrifol a threfnedig:
“Mae’r gwarantau yma’n rhan o’n gwaith parhaus i waredu ein strydoedd o gyffuriau gan ein bod yn gwybod bod cyffuriau’n dinistrio bywydau ac yn difetha ein cymunedau.
“Rydyn ni wedi ymroi i sefyll gyda’n cymunedau i ddangos ein bod ni i gyd yn erbyn unigolion sy’n cymryd mantais o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
“Rydyn ni wrthi’n dadansoddi’r cyffuriau a atafaelwyd yn ystod y gwarantau yma, ond rydyn ni’n amau o’r arwyddion cynnar bod y bobl yma’n cyflenwi cyffuriau dosbarth A.
“Cafodd swm sylweddol o arian ei atafaelu o’r adeiladau yn ystod y gwarantau cyffuriau hefyd, y mae swyddogion yn dal i’w gyfrif, ynghyd ag eitemau eraill rydyn ni’n credu sy’n eiddo troseddol.
“Rwy’n ddiolchgar am gymorth yr holl swyddogion a oedd yn rhan o’r ymgyrch yma gan ein bod i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig yng Ngwent, yn arbennig gan fod effeithiau delio cyffuriau i’w teimlo ar draws y gymdeithas gyfan.”
Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth neu bryderon am gyflenwi cyffuriau yn eich ardal chi, gallwch riportio ar y wefan, trwy anfon neges uniongyrchol aton ni ar gyfryngau cymdeithasol, neu drwy ffonio 101.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111 yn ddienw.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.