Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid yng Nghaerffili ar fenter newydd gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth am beryglon yfed o dan oed.
Mae’r prosiect newydd, sy’n rhan o’n menter Parchu Rhymni, yn dod ag awdurdodau lleol, gwasanaethau ieuenctid, yr heddlu, ysgolion, manwerthwyr, a darparwyr gofal iechyd at ei gilydd i roi sylw i’r risgiau sy’n gysylltiedig ag yfed o dan oed ac i warchod iechyd a lles plant a phobl ifanc.
Meddai Prif Arolygydd Stevie Warden, a oedd yn bresennol yn y digwyddiad lansio yn Nhŷ Penallta dydd Iau 17 Hydref:
“Bydd y bartneriaeth newydd yma’n annog sgyrsiau agored am beryglon alcohol, a gwaith gydag ysgolion i addysgu disgyblion ynglŷn â gwneud dewisiadau cyfrifol.
“Trwy ganolbwyntio ar atal, ein gobaith yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc er mwyn iddyn nhw allu gwrthod y pwysau o yfed dan oedran a mathau eraill o ymddygiad niweidiol.
“Trwy ‘Parchu Rhymni’, rydyn ni’n cynnal nifer o ymgyrchoedd plismona i gael gwared ar droseddau difrifol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, ond rydyn ni hefyd yn sicrhau cyfleoedd i ymgysylltu er mwyn dysgu ein preswylwyr iau am y rhan bwysig maen nhw’n ei chwarae wrth helpu i adeiladu cymunedau mwy diogel.”
Meddai Kate Winstanley, Cyfarwyddwr Partneriaeth Alcohol Gymunedol (CAP): "Rydyn ni’n gwybod o ymchwil helaeth bod yfed o dan oed yn gallu arwain at ganlyniadau difrifol, o darfu ar addysg i arwain pobl ifanc i wneud pethau peryglus fel defnyddio cyffuriau, trais, a phroblemau iechyd hirdymor. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn helpu i lywio plant a phobl ifanc tuag at blentyndod heb alcohol."
Ychwanegodd: "Mae gan bartneriaethau CAP enw da am leihau cyflenwad alcohol i blant dan oed, cadw rheolaeth ar ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol, a lleihau yfed ar y stryd gan blant dan oed. Rydyn ni’n cael boddhad go iawn wrth weld partneriaid lleol yn ymuno i amddiffyn ein plant a phobl ifanc a’u helpu nhw i fyw bywydau mwy iach a diogel."
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.