Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wrth i Galan Gaeaf agosáu, rydyn ni’n annog pobl i feddwl am bobl eraill a pharchu eu dymuniadau.
Er ein bod ni eisiau i bawb fwynhau eu hunain yn ddiogel ac yn gyfrifol, byddwn yn cymryd camau yn erbyn y rheini sy’n benderfynol o ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Ar y cyd â’n partneriaid yng Nghyngor Sir Fynwy, rydyn ni’n gweithio i helpu i gadw preswylwyr Cil-y-coed yn ddiogel rhag niwed.
Yn rhan o Ymgyrch Lumley, ymgyrch sy’n cael ei hariannu gan y llywodraeth, mae ein swyddogion wedi bod yn cynnal patrolau amlwg – a byddant yn parhau i wneud hynny yn yr ardaloedd o gwmpas canol tref Cil-y-coed sydd wedi cael eu nodi fel mannau lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem.
Bydd mwy o bresenoldeb heddlu gyda’r nos yng Nghil-y-coed dydd Mercher (30 Hydref), dydd Iau (31 Hydref), dydd Gwener (1 Tachwedd), dydd Sadwrn (2 Tachwedd) dydd Sul (3 Tachwedd), dydd Llun (4 Tachwedd) a dydd Mawrth (5 Tachwedd).
“Fel arfer mae hwn yn un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn i ni, pan mae adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn tueddu i gynyddu,” meddai Arolygydd Atal Trosedd Christine James.
“Mae gan bawb yr hawl i deimlo’n ddiogel yn eu cymunedau a dim ond trwy weithio gyda’n gilydd fel partneriaid y gallwn ni adeiladu cymunedau mwy diogel.
“Er y bydd y mwyafrif helaeth y bobl yng Nghil-y-coed yn ymddwyn yn gyfrifol; byddwn yn parhau i roi sylw i unrhyw broblemau fel trosedd a diogelwch y cyhoedd.”
Yn rhan o’r gronfa Strydoedd Saffach, bydd Cyngor Sir Fynwy yn rhoi mesurau ychwanegol ar waith i gadw pobl yn ddiogel yng Nghil-y-coed.
Bydd staff diogelwch preifat achrededig yn gweithio mewn parau ar batrôl yn yr ardal o gwmpas y Stryd Fawr nos Fercher (30 Hydref) a nos Iau (31 Hydref).
Bydd aelodau ychwanegol o’r Tîm Gwasanaethau Ieuenctid yn rhoi cymorth gydag oriau agor estynedig yng Nghanolfan Ieuenctid Zone, a byddant yn gwisgo tabardau hawdd eu hadnabod.
I gefnogi’r gwaith rhagweithiol yma i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, bydd staff ychwanegol o’r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir (SRS) yn gweithio yn yr ystafell reoli teledu camerâu cylch cyfyng (TCCC) i fonitro camerâu diogelwch yr ardal.
Meddai’r Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Ar y cyd gyda Heddlu Gwent, rydyn ni wedi nodi ardaloedd yng Nghil-y-coed lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn achosi pryder i breswylwyr.
“Bydd ein staff yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r heddlu trwy gydol yr wythnos yma i sicrhau bod canol tref Cil-y-coed yn parhau i fod yn lle croesawgar a diogel i bawb.”
Os ydych chi’n pryderu am drosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal, cysylltwch â ni ar ein gwefan, ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, neu drwy ffonio 101. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.